Cwrs Gloywi CITB SMSTS (Site Managers Safety Training Scheme)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
2 diwrnod
Cwrs Gloywi CITB SMSTS (Site Managers Safety Training Scheme)Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs Gloywi SMSTS dau ddiwrnod yn addas i ymgeiswyr sydd eisoes wedi pasio'r Cwrs SMSTS ac angen adnewyddu eu tystysgrif. Bydd y cwrs gloywi SMSTS yn diweddaru ymgeiswyr am ddatblygiadau mewn deddfwriaeth adeiladu a defnydd priodol o arferion gorau. Bydd y cwrs hefyd yn gwella sgiliau rheoli ymgeiswyr er mwyn iddynt hwy a'u gweithlu allu cydymffurfio ag unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau cyfreithiol newydd.
Dyddiadau Cwrs
86B Bowen Court, Parc Busnes Llanelwy
Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
15/07/2024 | 09:00 | Dydd Llun, Dydd Mawrth | 14.00 | 1 | £290 | 0 / 12 | D0018883 |
Gofynion mynediad
Dim ond yr ymgeiswyr hynny sydd eisoes wedi pasio'r cwrs SMSTS pum diwrnod, neu gwrs Gloywi SMSTS blaenorol (2 ddiwrnod) yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, ac sy'n gallu darparu cyflwyno tystiolaeth o hyn, sy'n gymwys ar gyfer y cwrs gloywi dau ddiwrnod hwn.
COFIWCH SICRHAU BOD EICH TYSTYSGRIF YN GYFREDOL CYN CADARNHAU EICH ARCHEB . *Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos tystysgrif wreiddiol y cwrs 5 diwrnod ynghyd â gwybodaeth, os ydynt yn cofio, ynghylch pryd ac ymhle y dilynon nhw'r cwrs.
Cyflwyniad
Caiff y cwrs rhyngweithiol hwn ei gyflwyno drwy gyfrwng astudiaethau achos, trafodaethau yn y dosbarth, gwaith grŵp a chyflwyniadau grŵp.
Asesiad
Ar ddiwedd y cwrs CITB SMSTS bydd gofyn i ymgeiswyr sefyll papur arholiad yn cynnwys 25 cwestiwn. Bydd 5 o'r rhain yn ymwneud â phwysigrwydd diogelwch a byddant angen ateb ysgrifenedig byr. Mae'r cwestiynau amlddewis yn werth 1 pwynt yr un a'r cwestiynau ar bwysigrwydd diogelwch yn werth rhwng 1 a 3 phwynt yr un. I gyflawni'r amcanion dysgu angenrheidiol a sicrhau'r dystysgrif SMSTS, rhaid i ymgeiswyr fod yn bresennol ar bob un o'r 5 diwrnod, yn unol â gofynion rhaglen y cwrs gloywi SMSTS. Er mwyn llwyddo ar y cwrs, RHAID i'r ymgeiswyr ateb POB cwestiwn ar bwysigrwydd diogelwch yn gywir. Cyfradd basio'r cwrs SMSTS yw 80% (28 allan o 35 cwestiwn).
Dilyniant
Cyrsiau eraill gyda'r Grŵp.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
- Iechyd a Diogelwch
Dwyieithog:
n/aAdeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig