Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif CACHE L2 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu (Cynorthwyydd Dysgu)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    34 wythnos

Gwnewch gais
×

Tystysgrif CACHE L2 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu (Cynorthwyydd Dysgu)

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs wedi'i hanelu at y rhai sy'n gweithio mewn lleoliad ysgol, o dan oruchwyliaeth, neu ar gyfer y rhai sydd eisiau gweithio mewn ysgolion, er enghraifft, fel Cynorthwyydd dosbarth.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Mae'r cymhwyster lefel 2 yma'n cael ei gyflwyno yn bennaf yn y coleg trwy sesiynau a addysgir, gweithgareddau ymarferol a sesiynau tiwtorial.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Mae'r unedau o fewn y cymhwyster hwn yn gofyn am wybodaeth ysgrifenedig ar ffurf portffolio yn ogystal ag asesiad trwy arsylwi uniongyrchol.

Dilyniant

Gallech symud ymlaen at nifer o raglenni eraill yn Grŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Dyfarniad Lefel 3 CACHE mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Hyfforddiant Athrawon

Dwyieithog:

n/a

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth

Hyfforddiant Athrawon

Darlithydd yn arwain dosbarth