Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Rhwydweithio) (Atodol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser, Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn-amser: 1 flwyddyn; Rhan-amser: 2 flynedd NEU drwy fodiwlau.

  • Cod UCAS:
    M650
Gwnewch gais
×

BSc (Anrh) Cyfrifiadura (Rhwydweithio) (Atodol)

Graddau (Addysg Uwch)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os ydych chi eisoes wedi cwblhau Gradd Sylfaen (FdSc) Cyfrifiadura (Rhwydweithio) (neu debyg), mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen i Lefel 6 ac ennill gradd anrhydedd lawn.

Bydd y cwrs yn adeiladu ar eich sgiliau a'ch gwybodaeth bresennol o seilweithiau rhwydwaith gyda modiwlau sy'n ymwneud â gosod a gweinyddu gweinydd rhwydwaith.

Bydd gwaith unigol a grŵp yn eich galluogi i archwilio meysydd sydd o ddiddordeb i chi ac yn datblygu eich gallu i ddysgu'n annibynnol.

Mae modiwlau yn cynnwys:

  • Rheoli Gweinyddion Rhwydweithiau
  • Gosod a Ffurfweddu Gweinyddion Rhwydweithiau
  • Cyfrifiadura Ffisegol

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Gofynion mynediad

Gofynion Academaidd:

Bydd dilyniant i lefel 6 yn digwydd yn uniongyrchol yn achos y myfyrwyr hynny sy'n mynd ymlaen o Radd Sylfaen i Radd BA (Anrh) mewn Cyfrifiadura yn GLlM yn dilyn cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus. Rhaid i fyfyrwyr sy'n symud ymlaen aros ar eu llwybr dewisol (Datblygu Meddalwedd neu Rwydweithio).

Pan fo myfyrwyr wedi cael seibiant o'u hastudiaethau ar ôl cwblhau eu Gradd Sylfaen, dylid gwneud ceisiadau am fynediad uniongyrchol trwy'r broses Trosglwyddo Credydau.

Bydd ymgeiswyr allanol ar gyfer y cwrs lefel 6 yn cael eu hystyried ar sail unigol yn unol â pholisi GLlM ynghylch trosglwyddo credydau, yn seiliedig ar astudiaeth lwyddiannus flaenorol o 120 credyd y lefel mewn cymhwyster cydnaws (o fewn yr amserlen a nodwyd yn y polisi).

Gofynion Iaith

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6.0 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd rhyngweithiol
  • Gweithdai ymarferol
  • Trafodaethau / gweithgareddau grŵp
  • Siaradwyr gwadd
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Mae'r dysgu'n gyfranogol, yn anffurfiol ac yn llawn cyfleoedd i'r unigolyn archwilio eu creadigrwydd.

Amserlen

  • Llawn amser: 1 blwyddyn, 2 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)
  • Rhan-amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (fel arfer 9.00 am - 5.00 pm)

Ffioedd

Ewch i'r dudalen Cymorth Ariannol a Chyllid am fwy o wybodaeth.

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Bydd arnoch angen cyfrifiadur neu liniadur yn eich cartref ynghyd â gwasanaeth rhyngrwyd dibynadwy.

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Mark Roberts (Rhaglen Arweinydd): robert19m@gllm.ac.uk

David Clarke (Gweinyddiaeth): clarke1d@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Aseiniadau ymarferol ac aseiniadau wedi'u seilio ar theori
  • Asesiadau i'w gwneud mewn amser penodol
  • Adroddiadau
  • Cyflwyniadau llafar
  • Gweithio ar brosiect
  • Portffolios
  • Asesiad yn y gweithle
  • Aseiniadau grŵp/tîm
  • Llyfrau log a gwaith adfyfyriol

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar y sgiliau a feithrinwyd eisoes wrth astudio am gymhwyster Lefel 5 mewn Rhwydweithio.

Am bob 10 credyd, dylai'r myfyrwyr gwblhau tua 100 o oriau dysgu tybiannol. Bydd tua 30% o hyn yn gyswllt dysgu uniongyrchol, a 70% yn ddysgu annibynnol.

Mae'r cyfuniad hwn o fodiwlau'n arwain at Radd BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura (Rhwydweithio).

Mae cwrs BSc (Anrh) arall ar gael sy'n arbenigo mewn Datblygu Meddalwedd.

Rheoli Gweinyddion Rhwydweithiau:
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar y modiwl "Gosod a Ffurfweddu Gweinyddion Rhwydweithiau" ac yn canolbwyntio ar sut y rheolir gweinyddion rhwydwaith o ddydd i ddydd. Mae ystyriaeth hefyd i ystyriaethau mwy strategol megis diffiniad a threfniant polisïau diogelwch / gweithdrefnau, cynllunio adfer mewn trychineb, a dewis/gweithrediad dulliau priodol (e.e. ITIL, Prince2). (Adroddiad 50% / Portffolio 50%)

BSc Traethawd Estynedig:
Mae'r modiwl hwn yn caniatáu i ddysgwyr unigol archwilio rhan ddewisol o ddiwydiant cyfrifiadura a gemau yn fanylach drwy draethawd estynedig wedi'i selio ar ymchwil neu brosiect. (Adroddiad 85% / Cyflwyniad / arddangosiad 15%)

Prosiect Grŵp:
Mae'r modiwl hwn yn caniatáu i ddysgwyr weithio mewn grwpiau o 3-5 fel arfer i archwilio rhan ddewisol o'r diwydiant cyfrifiadura drwy gyfrwng prosiect a fydd yn rhoi cyfle iddynt feithrin gwybodaeth a sgiliau newydd, defnyddio gwybodaeth a sgiliau a ddysgwyd yn flaenorol a pharhau i feithrin sgiliau gweithio mewn grŵp. (Adroddiad 10% / Gwaith ymarferol 60% / Cyflwyniad / arddangosiad 30%)

Gosod a Ffurfweddu Gweinyddion Rhwydweithiau:
Mae'r modiwl hwn yn defnyddio deunydd gan y gwerthwr a chod agored a meddalwedd i gyflwyno nodweddion a swyddogaethau gweinyddion sy'n cael eu defnyddio mewn sefydliadau bach a chanolig eu maint, a rhai mawr. (Adroddiad 50% / Portffolio 50%)

Cyfrifiadura Ffisegol:
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno dysgwyr i ryngweithiad caledwedd a meddalwedd Caiff mwyafrif yr amser yn y dosbarth ei defnyddio ar gyfer ymarferion ymarferol ac arbrofi. (Asesiad â chyfyngiad amser 10% / Gwaith ymarferol 80% / arddangosiad 10%)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau
  • International

Sefydliad dyfarnu: Prifysgol Bangor

Dwyieithog:

n/a

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Sefydliad dyfarnu