Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Plismona)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn (16 awr yr wythnos). Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y cynigir rhaglen dwy flynedd.

Gwnewch gais
×

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Plismona)

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi fynd ymlaen i Addysg Uwch? Ydych chi am baratoi at ddilyn cwrs gradd mewn plismona? Ar y cwrs hwn, cewch y wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i fynd ymlaen i ddilyn cwrs addysg uwch perthnasol.

Nod Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch Cymru Gyfan yw rhoi i chi'r sgiliau sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn rhaglen addysg uwch yn llwyddiannus. Fe'u bwriadwyd ar gyfer dysgwyr sydd wedi cael profiad sylweddol o fywyd ers iddynt gwblhau eu haddysg orfodol.

Mae'r Diploma mewn Plismona'n cynnwys pynciau perthnasol mewn meysydd fel pwerau'r Heddlu, y ddeddfwriaeth a ddefnyddir gan yr heddlu, cadw safleoedd troseddau, troseddeg a seicoleg troseddu.

Bydd y dysgwyr yn astudio mathemateg a sgiliau astudio craidd, ynghyd â gwneud gwaith ymchwil arbrofol.

Gofynion mynediad

TGAU Gradd C mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a TGAU Gradd D mewn Mathemateg neu Rifedd (neu gymwysterau cyfwerth), yn unol â gofynion y llwybr dilyniant i brifysgol. Dylech fod wedi cael profiad mewn sgiliau bywyd perthnasol am o leiaf dair blynedd ar ôl gadael addysg orfodol.

Cyflwyniad

Cynlluniwyd Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch Cymru Gyfan i'ch helpu i ddychwelyd i astudio ar ôl cyfnod o amser. Felly, bydd y sesiynau'n rhai cyfranogol a gynhelir mewn awyrgylch cyfeillgar ac ysgogol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r tiwtoriaid, gan ddysgu drwy gyfrwng gwersi ffurfiol yn ogystal â thrafodaethau, arddangosiadau a gwaith prosiect.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu fel a ganlyn:

  • Gosodir tasgau gwahanol ar gyfer pob uned ac fe'ch asesir drwy gyfrwng y rhain yn ystod y cwrs

  • Bydd eich tiwtor yn eich helpu ac yn eich paratoi'n ddigonol

  • Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, adroddiadau, tasgau ymarferol, setiau o broblemau, a chyflwyniadau

  • Bydd holl fodiwlau'r pynciau academaidd yn cynnwys o leiaf un ymarfer dibaratoad y bydd gofyn ei gwblhau mewn amser penodol

Bydd y rhaglen ddysgu'n cynnwys pynciau fel Technoleg Gwybodaeth a modiwl Edrych Ymlaen at Addysg Uwch Lefel 4.

Dilyniant

Bydd y Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Plismona) yn paratoi dysgwyr i fod yn hunangyfeiriedig ac yn annibynnol trwy raglen ddysgu sy’n cefnogi caffael sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau sy’n briodol i’w llwybr dilyniant arfaethedig. Bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i ystod o feysydd pwnc yn ymwneud â gofynion academaidd ac ymarferol astudiaeth israddedig mewn Plismona.

Prif nodau’r Diploma MAU (Plismona) yw:

  • Creu cyfleoedd ar gyfer symud ymlaen i addysg uwch i oedolion nad oes ganddynt, oherwydd amgylchiadau amrywiol, y cymwysterau mynediad gofynnol

  • Hwyluso datblygiad y sgiliau a’r ymddygiadau sydd eu hangen i reoli gofynion astudiaethau israddedig mewn Plismona neu faes cysylltiedig yn llwyddiannus

  • Darparu rhaglen ddysgu ysgogol lle gall dysgwyr ennill gwybodaeth sy'n adlewyrchu'r meysydd craidd a'r disgyblaethau sy'n gysylltiedig ag astudiaeth israddedig mewn plismona.

  • Galluogi dysgwyr i adolygu eu cynnydd yn barhaus, nodi meysydd i'w gwella, goresgyn rhwystrau i ddysgu a gwella eu hunanhyder o fewn amgylchedd dysgu cadarnhaol a chefnogol. (gwefan Agored)

Mae dilyniant posibl yn rhanbarthol yn cynnwys Gradd BSc (Anrh) Plismona Proffesiynol Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai y cyflwynir blwyddyn gyntaf lawn a hanner yr ail flwyddyn ohoni ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Rhos a chwrs BA (Anrh) mewn Plismona Proffesiynol Prifysgol Glyndŵr. . Bydd dilyniant posibl hefyd yn cynnwys astudiaeth Radd mewn meysydd sy'n ymwneud â Phlismona. Cefnogir myfyrwyr hefyd i nodi a gwneud cais am gyfleoedd dilyniant priodol fel rhan o'r cwrs.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Mynediad i Addysg Uwch

Mynediad i Addysg Uwch

Dysgwr addysg uwch yn astudio