Glynllifon

Campws diwydiannau’r tir, sy’n cynnwys cyfleusterau preswyl, yw Glynllifon. Saif ar Ystâd Glynllifon ger Caernarfon.

Mae fferm Glynllifon, yn cynnwys y coetir, yn ymestyn dros 300 hectar, ac mae’n amgylchedd gwych ar gyfer astudio rheoli cefn gwlad ac amaethyddiaeth. Bydd y myfyrwyr amaeth yn cael profiad ymarferol ar fferm Glynllifon lle ceir:

  • Buches Odro Groesfrid sy’n lloia yn yr hydref
  • Buches Eidion Stabiliser a Gwartheg Duon sy’n lloia yn y gwanwyn
  • Diadell lawr gwlad yn cynnwys 500 dafad Llŷn
  • Diadell o 50 o ddefaid cyfandirol i gynhyrchu ŵyn cigydd
  • Cenfaint o 50 mochyn Cymreig a hychod croes ar y fferm

Ymhlith y buddsoddiadau diweddar ar Fferm Glynllifon, mae’r tŷ crwn a godwyd i’r gwartheg, a’r uned foch o’r radd flaenaf.

Yn ogystal, mae gan y campws ganolfan astudiaethau anifeiliaid, canolfan beirianneg, a choedwig a melin lifio.

Mae'r bloc addysgu o'r radd flaenaf ac yn cynnwys cyfleusterau dysgu modern, ystafelloedd TG, yn ogystal â llyfrgell a chanolfan adnoddau, darlithfa fawr, dwy ystafell bwrpasol i anifeiliaid egsotig a'r cwrs nyrsio milfeddygol, ynghyd â cheginau ac ystafelloedd gwaith ar gyfer yr Adran Sgiliau Byw'n Annibynnol.

Y Ganolfan Astudiaethau Anifeiliaid

Mae’r Ganolfan Anifeiliaid yn cynnwys parc anifeiliaid a chyfleuster anifeiliaid egsotig. Mae yno gyfleusterau i gadw amrywiaeth eang o anifeiliaid bach, dofednod, creaduriaid acwatig ac ymlusgiaid, ynghyd â thŷ adar.

Y GANOLFAN BEIRIANNEG

Yn sgil y cyfleusterau pwrpasol, caiff y myfyrwyr fagu profiad yn defnyddio gwahanol fathau o beiriannau. Yn ddiweddar, buddsoddodd y coleg mewn llefydd weldio newydd, peiriant weldiorhithrealiti ac ehangwyd y gweithdy.

Y GOEDWIG A’R FELIN GOED

Yn y felin goed, a adnewyddwyd ac a ehangwyd yn ddiweddar, caiff y myfyrwyr, yn ystod eu cwrs, brofiad o weithio mewn coedwig fasnachol. Mae’r fferm a’r coetir 300-hectar hefyd yn rhoi cyfle iddynt ddeall yragweddau ymarferol ar reoli cefn gwlad.

FFERM GLYNLLIFON

Mae fferm Glynllifon, yn cynnwys y coetir, yn ymestyn dros 300 hectar, ac mae’n amgylchedd gwych ar gyfer astudio rheoli cefn gwlad ac amaethyddiaeth. Bydd y myfyrwyr amaeth yn cael profiad ymarferol ar fferm Glynllifon lle ceir:

  • Buches Odro Groesfrid sy’n lloia yn yr hydref
  • Buches Eidion Stabiliser a Gwartheg Duon sy’n lloia yn y gwanwyn
  • Diadell lawr gwlad yn cynnwys 500 dafad Llŷn
  • Diadell o 50 o ddefaid cyfandirol i gynhyrchu ŵyn cigydd
  • Cenfaint o 50 mochyn Cymreig a hychod croes ar y fferm

Ymhlith y buddsoddiadau diweddar ar Fferm Glynllifon, mae’r tŷ crwn a godwyd i’r gwartheg, a’r uned foch o’r radd flaenaf.

Hostel Glynllifon

Byw mewn hostel

Yn ystod yr wythnos, gall myfyrwyr o bell aros yn y llety cyfforddus a ddarperir ar gampws Glynllifon. Mae yno wardeiniaid i gefnogi a goruchwylio’r myfyrwyr gyda’r nos a thros nos.

Gall y preswylwyr ddefnyddio’r ystafell deledu, y byrddau pŵl a thennis bwrdd, offer y gampfa, yn ogystal â’r ceginau hunanarlwyo a’r lolfeydd.

Yn rheolaidd, cynhelir gweithgareddau gyda’r nos, gan gynnwys sesiynau coginio, sesiynau ffitrwydd a saethu colomennod clai.

Dewch i wybod mwy

Lleoliad y Campws


Ffordd Clynnog
LL54 5DU

01286 830 261

Llywio i'r lleoliad hwn:



Cyfeiriad 'what3words'     ///convinces.aced.protests