Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hostel Glynllifon

Yn ystod yr wythnos, gall myfyrwyr o bell aros yn y llety cyfforddus a ddarperir ar gampws Glynllifon. Mae yno wardeiniaid i gefnogi a goruchwylio’r myfyrwyr gyda’r nos a thros nos.

Gall y preswylwyr ddefnyddio’r ystafell deledu, y byrddau pŵl a thennis bwrdd, offer y gampfa, yn ogystal â’r ceginau hunanarlwyo a’r lolfeydd.

Cyrraedd ac ymgartrefu

Mae’r Coleg wedi ei leoli o fewn waliau hen stad Glynllifon a oedd yn gartref dros y canrifoedd i'r Newboroughs, nes bod y Coleg yn prynu’r safle yn 1953.

Mae’r hostel yng Nglynllifon yn rhan o brif safle’r coleg ac mae wedi ei leoli ar ddiwedd y ffordd i mewn.

Mae llety ar gyfer 70 o ddysgwyr yn yr hostel. Mae’r coleg wedi ei leoli tua phedair milltir o Gaernarfon, ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri a thraeth Dinas Dinlle sydd yn llai na dwy filltir i ffwrdd, gan wneud y Coleg yn addas i’r rhai sydd wrth eu bodd gyda’r môr a’r mynyddoedd.

Hostel Glynllifon

Llety a chyfleusterau

Yn y llety ceir ystafelloedd dwbl yn bennaf, gyda myfyrwyr yn rhannu gyda myfyrwyr o’r un rhyw. Drwy rannu ystafelloedd bydd hyn yn cynorthwyo dysgwyr i gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd yn ystod eu harhosiad yng Nglynllifon.

Disgwylir i chi fod wedi gadael eich ystafell erbyn 8:50yb bob bore. Mi fydd wardeiniaid yn gwirio bod yr ystafelloedd yn wag rhwng 8:50yb a 9yb i wneud yn siŵr bod pawb yn holliach ar ddechrau’r diwrnod.

Yr hyn yr ydym yn ei ddarparu

Ystafell
Mae pob ystafell wely yn ein llety cynnwys

  • Desg a chadair ar gyfer bob myfyriwr
  • Cabinet sydd yn cloi wrth ochr y gwely ar gyfer pob myfyriwr
  • Y rhyngrwyd a phwyntiau mynediad freeview
  • Ystafell gawod ‘ensuite’
  • Mae un ystafell 'twin' wedi ei addasu ar gyfer dysgwyr ag anableddau.

Cegin

  • Microdon
  • Oergell gyda blwch iâ
  • Tostiwr
  • Tegell
Dysgwyr Glynllifon yn chwarae cardiau

Gweithgareddau hamdden

Mae amser yn y coleg i chi gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd trwy ystod o weithgareddau. Efallai y byddwch yn hoffi:

  • Gwrando ar gerddoriaeth, gwylio teledu neu chwarae gemau cyfrifiadur yn eich
    ystafell.
  • Gwylio’r teledu neu DVD yn yr ystafell gyffredin
  • Sgwrsio dros baned yn y ceginau cymunedol
  • Chwarae dartiau neu bŵl yn yr ystafell gyffredin
  • Gwneud ymarfer corff e.e. cerdded y Parc
  • Cerdded y parc
  • Defnyddio’r ystafell ffitrwydd newydd

Yn y gorffennol mae amrywiaeth o weithgareddau wedi eu trefnu, yn cynnwys:

  • Cyfleoedd rheolaidd i fynd i’r sinema.
  • Y Ganolfan Hwyl ac atyniadau lleol eraill
  • Ymweliadau a chanolfannau hamdden lleol.
  • Bowlio Deg
  • Saethu peli paent
  • Go-cartio

Gall rhai gweithgareddau gynnwys costau ychwanegol. Os ydych yn dymuno cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon bydd angen i chi ddod a’ch gwisg nofio eich hun neu cit pêl-droed.

Gofynnwn i rieni/gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed lofnodi ein ffurflen ganiatâd i fyfyrwyr adael y safle ar gyfer ymweliadau gyda’r nos. Ein nod yw sicrhau bod risgi i iechyd a diogelwch myfyrwyr o weithgareddau’r
coleg yn cael eu rheoli’n briodol.

Dysgwr Glynllifon yn ymlacio yn chwarae pwl

Prydau bwyd

Mae prydau bwyd yn cael eu darparu yn y cantîn.

Brecwast
Wedi’i weini rhwng 8-8:45yb mae’n cynnwys grawn fwyd, tost a sudd ffrwythau.

Pryd gyda'r nos
Yn cael ei weini am 5:15pm. O bryd i’w gilydd bydd yr amseroedd yn newid a bydd amseroedd bwyd newydd yn cael ei nodi’n glir ar hysbysfyrddau.

Dylai myfyrwyr ag anghenion dietegol arbennig amlygu hyn yn y gwaith papur wrth gofrestru a siarad â staff yr hostel yn ystod y cyfnod sefydlu.

Myfyrwyr yn cael bwyd o ffreutur Glynllifon

Gwasanaethau i ddysgwyr

Mae gan y coleg ddarpariaeth i gefnogi myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau yng Nglynllifon.

Cymorth ariannol
Os yw rhieni/gwarcheidwaid ar incwm isel mae cymorth ar gael. Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy ymweld â'r dudalen ymorth ariannol a chyllid, neu drwy gysylltu â:

Cefnogaeth Dysgwr

  • Os ydych yn cael unrhyw broblemau personol ac yn ffeindio hi’n anodd ymdopi, unrhyw faterion aflonyddu neu fwlio neu angen cymorth i astudio, gallwch drafod rhain gyda staff broffesiynol sydd yn gyflogedig gan y Coleg yn gyfrinachol. Gellir cael gafael ar y cymorth hwn drwy e-bostio staysafe@gllm.ac.uk neu drwy fynd i swyddfa Gwasanaethau Dysgwyr, sydd ar gael ar y safle. Mae mwy o wybodaeth i’w gael drwy fynd i'r dudalen cefnogaeth myfyrwyr.
  • Gwasanaeth cwnsela proffesiynol - os byddwch yn cael unrhyw broblemau personol, ac y byddwch yn ei chael hi’n anodd ymdopi. Beth am i chi drafod y rhain gyda chynghorydd proffesiynol sydd wedi’i gyflogi gan y coleg i drafod y materion hyn yn gyfrinachol.
  • O bryd i’w gilydd mae wardeniaid yn defnyddio gwasanaethau proffesiynol eraill lle bo’n berthnasol e.e. gweithwyr iechyd proffesiynol, yr heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac ymarferwyr deintyddol.
  • Mae’r wardeniaid ar gael i ddatrys problemau yn yr hostel, o adrodd am iawndal i ddatrys problemau bwlio trwy lunio cynlluniau i ymdrin â’r mater yn gadarnhaol.
Cymorth myfyrwyr i ddysgwyr Glynllifon

Beth i ddod efo chi

  • Ddillad digonol ar gyfer arhosiad wythnosol
  • Duvet, gorchudd duvet, cynfasau, gobennydd a chas gobennydd
  • Tywelion
  • Cloc larwm
  • Sychwr gwallt
  • Ychydig o lestri a chyllyll a ffyrc

Dylai pob eitem drydanol gael ei raddio ar gyfer 220-240 folt a chydymffurfio a Safonau Prydeinig Diogelwch perthnasol. Mae angen archwilio a phrofi pob eitem (Gweler Tudalen 15 Rheol 13)

Mae modd i chi ddod ag eiddo personol arall i’r Coleg, ond ni fydd y Coleg yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod. Mae drôr a gellir ei gloi wedi cael ei ddarparu ar gyfer cadw arian ac eiddo personol.

Caniateir posteri gan ddefnyddio’r hysbysfwrdd a ddarperir ym mhob ystafell. Mae gosod posteri ar waliau yn debygol o achosi difrod i waith paent ac os bydd hyn yn digwydd efallai y codir bil arnoch am ailaddurno.

Mae pob ystafell yn cael ei archwilio’n wythnosol. Pwrpas yr archwiliadau hyn yw sicrhau bod y coleg a’r trigolion yn cydymffurfio a gofynion iechyd a diogelwch, megis rheoliadau tân, ac yn cydymffurfio a’r amodau preswylio mewn perthynas â materion cadw cyffredinol o fewn yr ystafell wely a’r ystafelloedd cymunedol.

Efallai y bydd contractwyr neu ofalwyr angen mynediad i’ch ystafell o bryd i’w gilydd a rhoddir gwybod i chi ymlaen llaw os bydd angen hyn. Bydd pob ystafell yn cael ei harchwilio’n rheolaidd gan staff glanhau'r hostel, fodd bynnag, cyfrifoldeb y myfyriwr yw gwneud y gwely a chadw’r ystafell yn daclus.

Efallai y byddwch eisiau dod a theledu eich hun gyda chi, fodd bynnag, mae angen i chi sicrhau bod gennych drwydded ar ei gyfer. Mae gennych hawl hefyd i ddod ag eitemau trydanol eraill cyn belled ag y byddwch yn sicrhau nad yw socedi trydan yn cael eu gorlwytho (ni chaniateir tanau trydan neu unrhyw offer a allai gychwyn y larwm mwg neu dân, mae hyn yn cynnwys tegellau ac oergelloedd mewn ystafelloedd gwely unigol).

Os ydych yn anhapus â threfniadau rhannu ystafelloedd, yna dylech fynd at warden yr hostel fel pwynt cyswllt cyntaf ac yna’r Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr a Marchnata er mwyn sicrhau bod y mater yn cael ei ddatrys.

Mae’r wardeniaid yn sicrhau bod rhaid i bawb o dan 18 oed fod yn eu hystafelloedd ddim hwyrach na 11pm. Mae posib i rai sydd dros 18 oed fynd i’w hystafelloedd yn hwyrach, ond mae’n rhaid defnyddio’r ardal gymunedol agosaf i’w ystafell wely ei hun ar ôl 11pm. Mae’r gwardeiniaid hefyd yn cadw llygad ar yr adeilad er mwyn sicrhau nad oes unrhyw berson anawdurdodedig yn cael mynediad i’r safle. Nid yw gormod o sŵn yn dderbyniol ar unrhyw adeg, ond yn arbennig ar ôl 11pm pan fydd preswylwyr eraill yn ceisio cysgu.

Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn caniatáu'r meddiant neu ddefnydd o unrhyw sylweddau anghyfreithlon, gan gynnwys alcohol yn gyffredinol ac yr ydym yn gwahardd ysmygu/feipio unrhyw sylwedd o fewn adeiladau’r coleg.

BYDD UNRHYW FYFYRIWR WEDI EI DDAL GYDAG ALCOHOL NEU SYLWEDDAU ANGHYFREITHLON YN YR HOSTEL YN CAEL EU DISGYBLU YN SYTH. BYDD Y COLEG HEFYD YN CYSYLLTU GYDA RHIENI/GWARCHODWYR.

Ni chaniateir anifeiliaid anwes yn yr hostel.

Important Information

Casglu allweddi
Cewch eich cynghori yn nes at ddechrau’r tymor pryd a ble i gasglu eich allweddi.

Yswiriant
Ni ellir dal y coleg yn gyfrifol am unrhyw golled/difrod i eiddo myfyrwyr. Mae’r coleg yn cynghori’n gryf eich bod yn cymryd polisi yswiriant personol i gynnwys lladrad/difrod i’ch eiddo a gynhwysir yn eich ystafell ac yn erbyn difrod y gall ei achosi trwy esgeulustod i eiddo coleg.

Trwydded deledu
Mae angen trwydded deledu i wylio neu recordio rhaglenni teledu ar unrhyw ddyfais yr ydych yn ei ddefnyddio (teledu, cyfrifiadur, gliniadur, ffôn symudol neu unrhyw un arall). Os nad oes gennych drwydded rydych mewn perygl o dderbyn dirwy o hyd at £1,000.

Rhestr wirio

Bydd hwn yn cael ei roi i chi pan fyddwch yn cyrraedd yr hostel. Mae er eich budd chi i wirio pob eitem. Os nad ydych yn cytuno a’r rhestr eiddo mewn unrhyw ffordd, trafodwch hyn ag unrhyw un o’r wardeniaid, a fydd yn dod i’ch ystafell i wirio'r anghytundeb gyda chi, a gall unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol gael eu gwneud a’i lofnodi gennych chi a'r warden.

Peidiwch â symud eiddo'r hostel o'ch ystafell neu'r hostel, gan y byddwch yn cael eich ystyried yn gyfrifol am unrhyw ddifrod dilynol/colled.

Post
Gall post gael ei gasglu o’r brif dderbynfa yn ystod oriau coleg. Gwnewch yn siŵr bod eich ffrindiau a’ch teulu yn gwybod y cyfeiriad cywir.

Ystafell *eich rhif ystafell*
Hostel Glanrafon,
Coleg Glynllifon,
Ffordd Clynnog,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 5DU

Parcio car

Mae parcio yn gyfyngedig i’r maes parcio y tu allan i hostel Glanrafon a'r tu allan i’r arena ceffylau. Fel myfyriwr ni chaniateir i chi ddefnyddio eich cerbyd ar safle'r coleg.

Nid yw’r coleg yn gyfrifol am ddiogelwch cerbydau ac mae’n rhaid i fyfyrwyr gael yswiriant digonol. Mae rhaid i bob cerbyd ar y safle gael tocyn parcio ar eu sgrin wynt. Bydd angen cwblhau ffurflen gais os yr ydych yn dymuno dod a cherbyd ar y safle. Mae’r ffurflenni hyn ar gael yn ystod y cyfnod cynefino ac o'r brif dderbynfa trwy gydol y flwyddyn goleg. Nid oes caniatâd i fyfyrwyr i barcio wrth brif adeilad PA@G y coleg. Mae’r safle hwn ar gyfer staff ac ymwelwyr yn unig.

Beiciau

Ni chaniateir storio beiciau mewn ystafelloedd gwely, cynteddau na’r grisiau oherwydd eu bod yn rhwystro allanfeydd tân a gall achosi difrod. Gofynnwch i’r warden am drefniadau storio.

Ymwelwyr

Rydym yn ymdrechu i wneud yr hostel mor groesawgar â phosibl, ac eto sicrhau amgylchedd diogel. Nid yw’r rhai nad ydynt yn drigolion yn gallu cael mynediad i’r hostel. Rhaid i bob ymwelydd adrodd yn uniongyrchol i’r Warden.

Goruchwyliaeth nos

Mae staff ar y safle i’ch goruchwylio tra byddwch yn yr hostel.

Eu prif gyfrifoldebau yw:

  • Sicrhau eich bod yn setlo i mewn.
  • Sicrhau eich bod yn byw mewn amgylchedd diogel
  • Darparu cyngor cyffredinol a chefnogaeth i chi
  • Cyd-weithio gyda chi i drefnu gweithgareddau hamdden

Gweithdrefnau Gwacáu a Chloi mewn Argyfwng

Gwacáu
Caiff adeilad ei wacáu pan fo’r perygl y tu mewn i’r adeilad, er enghraifft tân neu ddifrod strwythurol.

Dylai’r holl fyfyrwyr fynd i’r man ymgynnull neu’r lleoliad a gyhoeddwyd. Dylai myfyrwyr ond fynd â’r hyn sydd yn eu meddiant ar y pryd gyda nhw a dilyn y cyfarwyddiadau. Ni ddylai myfyrwyr adael y man ymgynnull nes bod aelod o staff wedi’u cyfarwyddo i wneud hynny.

Os bydd tân, mae gan bob myfyriwr gyfrifoldeb i osgoi risg tân a rhaid iddynt gymryd sylw o’r holl gyngor a roddir, yn ysgrifenedig neu ar lafar, gan y swyddogion tân a staff y llety. Os bydd tân, ewch allan o’r adeilad, gwnewch yn siŵr bod y drysau tân ar gau a seiniwch y larwm tân, os nad yw eisoes wedi’i ganu gan y synhwyrydd mwg/gwres. Arhoswch y tu allan i’r adeilad am gyfarwyddiadau gan y wardeniaid. Caiff y llwybrau gwacáu cywir a’r mannau ymgynnull tân eu dangos i’r myfyrwyr fel rhan o’r Broses Gynefino. Mae methu â gadael yr adeilad yn achos difrifol o dorri eich amodau preswyl a bydd yn arwain at weithdrefnau
disgyblu.

Cloi mewn Argyfwng
Mewn achos o gloi mewn argyfwng, ni chaiff unrhyw un adael yr adeilad na dod i mewn. Rhoddir gweithdrefnau cloi mewn argyfwng ar waith pan fo perygl sylweddol i ddiogelwch. Mae sefyllfaoedd o’r fath yn hynod o brin. Dylai myfyrwyr gloi’r drysau, diffodd y golau ac aros yn dawel ac allan o’r golwg. Dylai myfyrwyr symud i’r ystafell agosaf y gellir ei chloi a rhoi eu ffonau symudol mewn modd tawel ar frys.

Cloi allan mewn Argyfwng
Mewn achos o gloi allan mewn argyfwng, ni chaiff unrhyw un ddod i mewn i’r adeilad. Rhoddir y gweithdrefnau hyn ar waith pan fydd gollyngiad cemegol neu aflonyddwch sifil. Yn ystod achos o gloi allan, dylai pawb fynd i mewn i adeilad arall a fydd yn cael ei gloi. Bydd staff yn gyfrifol am gloi pob drws.

Mynediad i’r ystafelloedd

Mae’r ystafelloedd ar gael o 4 y.h ar nos Lun. Bydd bosib adael bagiau mewn safle diogel yn y bore. Bydd yr ystafelloedd yn cau am 3 y.h ddydd Gwener. Nid yw dysgwyr yn cael aros yn yr hostel yn ystod y dydd, dylent fynychu eu gweithgareddau cwrs. Os yw dysgwr yn sâl mae angen iddynt roi gwybod yn y brif dderbynfa, cyn gynted ag y bo modd. Gallwch adael eich pethau yn yr ystafell dros y penwythnos ond ar adegau prin, gall y coleg ofyn i chi adael eich ystafell , ee yn ystod y cyfnod profiad gwaith, neu ar ddiwedd y tymor a chyfnodau gwyliau.

Dylai’r coleg dderbyn o leiaf 24 awr o rybudd gan breswylwyr o’u bwriad i gadw draw dros nos. Rhaid rhoi gwybod i’r cyfeiriad e-bost hostel@gllm.ac.uk a’r Warden am bob absenoldeb. Bydd angen caniatâd rhieni ar bob myfyriwr o dan 18 oed ar neu ar ôl 1 Medi i adael yr hostel.

Myfyrwyr â chyflyrau meddygol

Yn y pecyn hostel mae ffurflen iechyd myfyriwr i’w chwblhau, mae rhain yn cael eu cadw mewn lle diogel, lle gall y wardeiniaid gael mynediad atynt.

Byddwn yn defnyddio’r ffurflen hon i gysylltu a rhieni/gwarcheidwaid os bydd angen unrhyw sylw meddygol arnoch mewn argyfwng. Os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth rhowch wybod i’r wardeiniaid.i’r feddygfa ym Mhenygroes. Nid oes gennych hawl i aros yn eich ystafell hostel yn ystod y dydd coleg os ydych yn sâl.

Myfyrwyr sy'n sâl

Os byddwch yn sâl mae’n rhaid i chi fynd i’r brif dderbynfa lle mae ystafell dawel wedi ei ddynodi i chi. Os ydych yn sâl ar fore Llun a methu dychwelyd i’r coleg, dylech roi gwybod i’r coleg. Os oes rhaid i chi ddychwelyd adref oherwydd eich bod yn sâl, yna rydym yn disgwyl i’r rhiant/gwarcheidwad wneud trefniadau angenrheidiol sy’n cynnwys rhoi gwybod i’r coleg.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date