Weldiwr / ‘Fabricator’ – Gweithdai Boston Lodge
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Yma ar Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri (RhFfE), rydym yn edrych i gyfnerthu ein safle fel un o brif atyniadau twristiaeth yng Nghornel Llaw Chwith Uchaf Cymru. Mae ein Gweithdai Boston Lodge yn darparu cyfuniad unigryw o adeiladu modern arloesol a blaengar a chadw a dehongli treftadaeth. Rydym yn falch o gyhoeddi cyfle prin a chyffrous i rywun ymuno â’r staff parhaol sy’n gweithio yn yr amgylchedd unigryw hwn.
Rydym am recriwtio weldiwr / ‘fabricator’ i ymuno â’n tîm gweithdy peririanneg. Mae’r gweithdai yn gyfrifol am adeiladu a chynnal fflyd y Cwmni o locomotifau stêm a disel yn unol â pholisïau a chynlluniau cyfredol a datblygol Cwmni Rheilffordd Ffestiniog, ac maent hefyd yn gwneud gwaith contract ar gyfer Rheilffyrdd Treftadaeth eraill a sefydliadau cysylltiedig.
Bydd y swydd barhaol, amser llawn hon wedi’i leoli yng Ngweithdai Boston Lodge, Minffordd, ger Porthmadog.
Gallwn ei gynnig i chi:
- Cyflogau o ££23,796 – £26,620 y flwyddyn yn dibynnu ar brofiad
- 40 awr yr wythnos, fel arfer Dydd Llun i Dydd Gwener, efallai y bydd angen gweithio ar benwythnosau yn achlysurol
- leiaf 28 diwrnod o wyliau â thâl, gan gynnwys yr holl wyliau banc a gwyliau cyhoeddus
- Cofrestru yng nghynllun pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
- Cyflog salwch uwch y cwmni
- Buddion teithio ar RhFfE ac ar reilffyrdd cenedlaethol yn unol â’r rheolau Teithio Staff Rheilffordd a oedd ar waith ar adeg eu cyflogi.
Rhaid bod gan ymgeiswyr ‘NVQ’ lefel 2 neu’n uwch mewn ‘Fabrication’ a Weldio; a gallu defnyddio prosesau MIG, TIG a weldio arc. Mae’r gallu i ddefnyddio prosesau torri plasma ac nwy thanwydd ‘oxy’ yn ddymunol. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â gweithio i luniadau saernïo technegol, a defnyddio blaengaredd eu hunain i adeiladu eitemau yn ôl y gofyn o frasluniau a chyfarwyddiadau llafar, gyda’r gallu i gynhyrchu i oddefiadau llym yn ôl gofynion pob tasg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos diddordeb a thueddfryd i ddysgu sgiliau newydd a gwahanol wrth weithgynhyrchu locomotifau rheilffordd a thasgau cysylltiedig eraill.
Sgiliau craidd:
- ‘NVQ’ lefel 2 neu’n uwch mewn Ffabrigo a Weldio, neu gymhwyster cyfatebol
- Profiad profedig mewn saernïo ymarferol a gwaith metel
- Sgiliau cyfathrebu a trefnu da
- Sgiliau rheoli amser da
- Llythrennol TG
- Bydd y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol
Sut i wneud cais
Ar wefan y cyflogwyr
Manylion Swydd
Lleoliad
Minffordd, Porthmadog
Sir
Gwynedd
categori
Llawn Amser
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.