Llanw/Banc – Gofal Cymdeithasol
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
- Ydych chi’n chwilio am waith ychwanegol i’ch incwm cyfredol?
- Ydych chi eisiau hyblygrwydd gyda’ch oriau gwaith i fodloni o gwmpas eich bywyd gartref?
- Ydych chi’n ystyried gyrfa mewn gofal cymdeithasol ac yn ceisio ennill profiad?
Os mai ‘ydw’ yw’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau uchod, yna hoffem glywed gennych chi. Mae gennym nifer o swyddi ar gael ar hyn o bryd o fewn ein Cynlluniau Gofal Ychwanegol, Canolfannau
Gofal Preswyl ac o fewn cymuned Sir Ddinbych. Mae’r swyddi hyn ar sail llanw/ yn ôl y gofyn, a gallent fod yn hyblyg i fodloni eich amgylchiadau.
Rydym yn cynnig cyfradd tâl gystadleuol o Raddfa 1 - Graddfa 5 (£11.59 - £13.24 yr awr) yn ddibynnol ar
rôl y swydd.
Darperir hyfforddiant llawn ynghyd ag iwnifform, telir ffioedd cofrestru, telir ffi gwiriad y Gwasanaeth
Datgelu a Gwahardd.
Bydd gan yr ymgeiswyr delfrydol agwedd gofalgar naturiol, a byddant eisiau gwneud gwahaniaeth ym
mywydau eraill.
Penodir yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, cofrestru gyda Chyngor Gofal
Cymdeithasol a geirdaon boddhaol.
I gael trafodaeth anffurfiol ynghylch y swyddi sydd ar gael, ffoniwch Julie Bamber ar 01824 708366.
Sut i wneud cais
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon, gwnewch gais ar-lein drwy’r wefan www.sirddinbych.gov.uk
Am ddulliau eraill o wneud cais cysylltwch â’r Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100. Nodwch y rôl/rolau a/ neu leoliad/ lleoliadau yr ydych yn gwneud cais amdanynt ar eich ffurflen gais.
Manylion Swydd
Sir
Sir Ddinbych
categori
Rhan Amser
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.