Ymgynghorydd Profiad Cwsmer - Cyswllt Môn
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Rydym yn chwilio am aelod tîm cadarnhaol a rhagweithiol i ymuno â’n tîm profiad cwsmer i ddarparu gwybodaeth a chymorth i’n cwsmeriaid trwy system gymorth aml-sianel.
Mae system gymorth aml-sianel ar gyfer gwasanaeth cwsmer yn golygu y bydd modd delio ag ymholiadau gan gwsmeriaid mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, yn cynnwys dros y ffôn, wyneb yn wyneb, sgwrs fyw a mwy.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio yn Cyswllt Môn Ynys Môn fel rhan o dîm integredig sy'n darparu gwasanaethau hygyrch a safon uchel a ddarperir gan y Cyngor a’i sefydliadau partner trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae Cyngor Ynys Môn wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cwsmer cadarnhaol a hygyrch. Bydd y gwasanaeth hwn yn rhoi dewis i’n preswylwyr ynghylch sut y byddant yn cysylltu â ni, boed hynny trwy ddulliau hunanwasanaeth ar ein gwefan, ein pyrth neu ar e-bost, neu trwy apwyntiadau wyneb yn wyneb, cysylltu ar y ffôn, sgwrs fyw, gwe-sgwrs a sgwrsfot, er mwyn cynnig a chefnogi dewis. Bydd deilydd y swydd yn cynorthwyo a chyfeirio ein dinasyddion at y gwasanaethau sydd ar gael gan y Cyngor a’i sefydliadau partner ac yn hyrwyddo’r gwasanaethau hynny.
Sut i wneud cais
Drwy'r wefan
Manylion Swydd
Lleoliad
Llangefni
Sir
Ynys Môn
categori
Llawn Amser
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Gwefan
https://saas.zellis.com/ynysmon-isleofanglesey/wrl/pages/vacancy.jsf?latest=01006023
Dyddiad cau
07.05.24
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.