Prentis Ymarferydd Cyn Ysgol
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Mae Rydal Penrhos yn ysgol annibynnol gydaddysgol flaenllaw yng Ngogledd Cymru, sy'n darparu addysg eithriadol i ddisgyblion 2 i 18 oed.
Mae Ysgol Rydal Penrhos yn ymrwymedig i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc ac yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwnnw. Bydd y person delfrydol yn chwaraewr tîm ac yn ymroddedig i sicrhau bod gan blant amgylchedd cyfoethog er mwyn chwarae, dysgu a datblygu.
Dyletswyddau dyddiol
Darparu safon uchel o ofal corfforol, emosiynol, cymdeithasol a deallusol i blant a leolir yn y Cyn-ysgol
Rhoi cefnogaeth i gydweithwyr yn ôl yr angen
Gweithio fel rhan o dîm er mwyn darparu amgylchedd galluogi lle gall pob plentyn unigol chwarae, datblygu a dysgu
Adeiladu a chynnal gwaith partneriaeth cryf gyda rhieni i alluogi diwallu anghenion plant.
Cymwysterau gofynnol
Cymhwyster Lefel 2 perthnasol a chydnabyddedig o leiaf
Tystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig Diweddar (dymunol)
O leiaf 1 flwyddyn o brofiad o weithio gyda phlant
Sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu da
Sgiliau siarad Cymraeg (dymunol)
Sut i wneud cais
Ebost - HR@rydalpenrhos.com
Manylion Swydd
Lleoliad
Colwyn Bay
Sir
Conwy
categori
Prentisiaethau
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Gwefan
Dyddiad cau
31.05.24
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.