Prentis ym maes Gweinyddu - Lefel 2
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Yma yn 'Sports For Champions UK (CIC)', ein nod ydy addysgu, galluogi a grymuso'r genhedlaeth nesaf drwy chwaraeon. Rydym yn Gwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) sy'n cyfuno grym trawsnewidiol chwaraeon ag egwyddorion menter gymdeithasol.
Rydym yn chwilio am Weinyddwr Prentis i ymuno a'm tim.
Dyletswyddau
Cymryd galwadau a chymryd negeseuon manwl, cywir lle bo angen.
Sicrhau fod yr holl stoc wedi ei ddiweddaru ac archebu mwy lle bo angen.
Rheoli a dosbarthu'r holl bost sy'n dod i mewn ac yn mynd allan.
Llungopïo, ffacsio, rhwymo a ffeilio holl ddogfennau'r cwmni
Archebu ystafelloedd cyfarfod a threfnu lluniaeth
Helpu gweithwyr cwmni gyda gohebiaeth e-bost
Diweddaru rhestrau cyswllt ar CRM y cwmni
Darparu cefnogaeth weinyddol ar adegau prysur. Darpariaeth weinyddol yn ystod gwyliau staff.
Cynorthwyo gyda dyletswyddau ysgrifenyddol ad-hoc y rheolwyr
Sgiliau
Hyderus gyda holl becynnau Microsoft Office
Arddull ffôn gwrtais
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog.
Trefnus iawn
Y gallu i flaenoriaethu rhestr pethau i'w gwneud, er y gall honno newid
Y gallu i roi sylw i fanylion
Yn dangos blaengaredd
Yn gyffyrddus yn gweithio yn unigol ac fel rhan o dîm.
Cymwysterau
TGAU Cymraeg/Saesneg a Mathemateg
Sut i wneud cais
Manylion Swydd
Lleoliad
Deeside
Sir
Sir Fflint
categori
Prentisiaethau
Sector
Manwerthu a Gwasanaethau i Gwsmeriaid / Retail & Customer Service
Gwefan
https://findanapprenticeship.service.gov.wales/find-apprenticeship/administration-apprentice-25
Dyddiad cau
07.06.24
Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk.