Prentisiaeth Cynorthwyydd Gweinyddol Level 2
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Dyletswyddau dyddiol
- Darparu gwasanaeth Reprograffeg gan gynnwys copïo, argraffu, rhwymo a lamineiddio
- Delio â phost sy'n dod i mewn ac yn mynd allan
- Llwytho gwybodaeth i system SchoolsBuddy
- Darparu gwasanaeth Derbynfa gan gynnwys ateb y prif ffôn
- Cynorthwyo â phrynu gan gynnwys codi archebion prynu a delio â chyflenwyr
- Cynnal pecynnau cymorth cyntaf ac archebu hyfforddiant ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf.
Nodweddion personol dymunol prentis
Meddu ar agwedd gadarnhaol a rhagweithiol gyda sgiliau rhyngbersonol da i ffynnu mewn amgylchedd prysur. Yn aelod cryf o dîm ac yn gallu aml-dasgio a delio â llwyth gwaith trwm. Yn berson digynnwrf sydd â'r gallu i feddwl yn gyflym a dod o hyd i atebion. Sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y gallu i weithio ar ei liwt ei hun yn hyderus gan ofyn am arweiniad pan fo angen. Mae hyblygrwydd yn ofyniad pendant gan nad oes dau ddiwrnod yr un fath ac mae angen ymgymryd â thasgau ar fyr rybudd. Felly, mae'r gallu i reoli llwyth gwaith personol a nodi blaenoriaethau yn hanfodol.
Cymwysterau gofynnol
TGAU Saesneg (gradd C neu uwch)
TGAU Mathemateg (gradd C neu uwch)
Gwybodaeth ychwanegol
Cyflog Byw Cenedlaethol
37 oriau y’r wythnos
Sut i wneud cais
Manylion Swydd
Lleoliad
Colwyn Bay
Sir
Conwy
categori
Prentisiaethau
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Gwefan
https://findanapprenticeship.service.gov.wales/vacancy/draft/6330/add
Dyddiad cau
02.05.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk