Sbaeneg - Cam 10
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o Bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1.5 awr yr wythnos am 13 wythnos / 2 awr yr wythnos am 10 wythnos (yn dibynnu ar y tymor)
Sbaeneg - Cam 10Potensial (Dysgu Gydol Oes)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr sydd am ddysgu a meithrin sgiliau siarad Sbaeneg er mwyn pleser. Gall y cwrs gynnwys unrhyw un o'r canlynol ar lefel sy'n addas i'r dosbarth: Cyfarchion Cyflwyno'ch hun a'ch teulu Rhoi a gofyn am wybodaeth Rhoi a dilyn cyfarwyddiadau Trefniadau teithio Archebu ystafelloedd mewn gwesty Bywyd teulu Bwyta allan Siopa Gweithgareddau hamdden a chwaraeon Delio ag argyfyngau Moduro Sefyllfaoedd gwaith Defnyddio gramadeg |
Gofynion mynediad
Diddordeb yn Sbaen a'i harferion/traddodiadau.
Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Bydd y gwersi'n cael eu cynnal ar lein gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dysgu.
Bydd yna ymarferion ynganu, trafodaethau ar sail senarios go iawn, clipiau fideo, gwaith cyfieithu a sesiynau ymarfer siarad.
Asesiad
Byddwch yn cyflwyno portffolio o'ch gwaith er mwyn i'r tiwtor ei asesu. Gall gynnwys taflenni gwaith wedi'u llenwi, gwaith ysgrifenedig a recordiadau sain ohonoch yn ymarfer siarad.
Dilyniant
Cyrsiau Sbaeneg Lefel uwch
Cyrsiau mewn ieithoedd eraill
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Ieithoedd
Dwyieithog:
Na