Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Sgiliau ym maes Gweinyddu Meddygol Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Un diwrnod yr wythnos am ddwy flynedd

Cofrestrwch
×

Sgiliau ym maes Gweinyddu Meddygol Lefel 2

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymwysterau hyn i bobl sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfa ym maes Gweinyddu Meddygol. Byddwch yn elwa ar ddysgu amrywiaeth o sgiliau defnyddiol ar gyfer gweithio mewn swyddfa a chyflawni tasgau gweinyddol mewn amgylchedd meddygol, e.e. Gofal yn y Gymuned, Gofal Sylfaenol, Gofal Eilaidd neu Sefydliadau Meddygol Preifat.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau, gan feithrin sgiliau cynhwysfawr a chael profiad ym mhob agwedd ar weinyddu mewn amgylchedd meddygol. Cewch wella'ch sgiliau a'ch cyflogadwyedd yn ogystal ag ennill cymhwyster cydnabyddedig ar gyfer gweithio i'r GIG.

Mae’r cwrs yn ymdrin â’r pynciau a ganlyn: sgiliau gweinyddu busnes, dealltwriaeth o strwythur y GIG, termau meddygol, Iechyd a Diogelwch, sgiliau cyfrifiadura hanfodol yn gysylltiedig â phrosesu geiriau a thrawsgrifio sain. Bydd y rhain yn meithrin eich sgiliau personol ac ymarferol o ran cyfathrebu'n effeithiol â chleifion, ymwelwyr ac aelodau o'r tîm gofal iechyd, deall y gweithdrefnau a ddefnyddir mewn ysbytai a meddygfeydd a defnyddio offer swyddfa a TG.

Gall cymhwyster Lefel 2 mewn Gweinyddu Meddygol eich helpu i lwyddo mewn swydd weinyddol mewn sefydliad o unrhyw faint neu fath, gan gynnwys: Ysgrifennydd, Derbynnydd, Gweinyddwr, Cynorthwyydd Personol, Clerc Cofnodion Meddygol a Chlerc Ward.

Gofynion mynediad

  • 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf), a/neu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol ym maes Gweinyddu

Cyflwyniad

Defnyddir dulliau amrywiol i gyflwyno'r cwrs, gan gynnwys cyflwyniadau, gwaith grŵp a gweithdai ymarferol.

Asesiad

Bydd yr holl waith yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol: portffolio o wybodaeth; Aseiniad; Cwestiynau gydag atebion byr.

Dilyniant

Lefel 3 mewn Gweinyddu Meddygol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth