Llwybr 2 - Sylfaen
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Glynllifon, Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
Bydd hyd y rhaglen yn dibynnu ar ofynion unigol y dysgwr. Ni fydd yn hwy na 2 blynedd.
Llwybr 2 - SylfaenLlawn Amser (Addysg Bellach)
Disgrifiad o'r Cwrs
Ar y cwrs hwn bydd dysgwyr yn magu hyder i fod yn fwy annibynnol ac yn ennill sgiliau a fydd o fantais iddynt i gael gwaith, neu i fynd ymlaen i gyrsiau galwedigaethol pellach yn y coleg.
Mae'r cyrsiau hyn wedi'u hanelu at ddysgwyr sy'n gadael yr ysgol ac sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau rhifedd a llythrennedd. O ran rhifedd a llythrennedd, bydd gofyn i ddysgwyr fod yn gweithio ar lefel Mynediad 2 neu uwch. Bydd angen iddynt ddod i gyfweliad neu sesiwn rhagflas i wneud yn siŵr bod y cwrs yn addas ar eu cyfer, a bod â'r gallu i gyrraedd y coleg yn annibynnol.
Gofynion mynediad
Mae cynnig lle ar y cwrs hwn yn amodol ar ganlyniad llwyddiannus o gyfres o gyfarfodydd trosiannol a chyfeiriad gan Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydlynydd Anghenion Ychwanegol Ysgolion, Ysgolion Arbennig, Ysgolion a Cholegau Arbenigol annibynnol a Gyrfa Cymru
Dysgwyr dilyniant mewnol: Wedi cwblhau rhaglen ddysgu ac yn gweithio ar lefel Mynediad 3. Mewn rhaglenni nad ydynt yn cael eu hachredu byddwch yn cwblhau asesiad rhifedd a llythrennedd er mwyn Cydnabod a Chofnodi Cynnydd a Chyflawniad (RARPA). Yn ogystal, yn ystod y digwyddiad pontio, byddwch yn cymryd rhan mewn asesiad sy'n cael ei arsylwi fydd yn ein helpu i gytuno ar dargedau priodol.
Llythrennedd / Rhifedd: Llythrennedd a Rhifedd M2/M3 WEST
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o weithgareddau ymarferol a gwaith dosbarth sy'n hyrwyddo annibyniaeth dysgwyr, eu hyder a'u sgiliau cymdeithasol ynghyd â'u gallu i ddewis a gwneud penderfyniadau. Caiff y dysgwyr eu dysgu mewn grwpiau bach.
Asesiad
Ar ôl gosod a chytuno ar dargedau unigol, gall dysgwyr gael eu hasesu drwy gyfrwng amrywiaeth o ddulliau sy'n bodloni eu hanghenion dysgu unigol. Gall dysgwyr gwblhau cymhwyster ffurfiol lle bo hynny'n briodol.
Dilyniant
Gwaith cyflogedig neu waith gwirfoddol yn yr ardal leol, cyfleoedd gwaith yn y gymuned, cyfleoedd dysgu neu hyfforddi pellach os yw hynny'n briodol.
Gwybodaeth campws Dolgellau
Nod y cwrs yw:
- gwella hunan-hyder a sgiliau symbyliadol dysgwyr.
- darparu sgiliau bywyd ymarferol a all ddatblygu i yrfa yn y dyfodol
- darparu profiad gwaith
- gweithio ar sgiliau rhifedd, sgiliau llythrennedd a 4 Piler y cwricwlwm SBA Sgiliau Byw'n Annibynnol; cymuned; byw iach a sgiliau cyflogadwyedd.
- rhoi cefnogaeth er mwyn mynd ymlaen i'r cam nesaf
Gwybodaeth campws Glynllifon
Nod y cwrs yw:
- gwella hunan-hyder a sgiliau symbyliadol dysgwyr.
- darparu sgiliau bywyd ymarferol a all ddatblygu i yrfa yn y dyfodol
- darparu profiad gwaith
- gweithio ar sgiliau rhifedd, sgiliau llythrennedd a 4 Piler y cwricwlwm SBA Sgiliau Byw'n Annibynnol; cymuned; byw iach a sgiliau cyflogadwyedd.
- rhoi cefnogaeth er mwyn mynd ymlaen i'r cam nesaf
Gwybodaeth campws Llangefni
Nod y cwrs yw:
- gwella hunan-hyder a sgiliau symbyliadol dysgwyr.
- darparu sgiliau bywyd ymarferol a all ddatblygu i yrfa yn y dyfodol
- darparu profiad gwaith
- gweithio ar sgiliau rhifedd, sgiliau llythrennedd a 4 Piler y cwricwlwm SBA Sgiliau Byw'n Annibynnol; cymuned; byw iach a sgiliau cyflogadwyedd.
- rhoi cefnogaeth er mwyn mynd ymlaen i'r cam nesaf
Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos
Yn meithrin dysgwyr i'w galluogi i:
- Ennill Sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol drwy 4 Piler y cwricwlwm SBA drwy raglen ddysgu heb ei hachredu.
- Yn datblygu cymhwysiad o sgiliau llythrennedd a rhifedd ymarferol ar gyfer byw annibynnol o fewn y sesiynau Skillbuild wedi eu hamserlennu - amser, arian, defnydd o gludiant cyhoeddus ac ati.
- Sgiliau Hunanhyder a chymhelliant
- Cynlluniau a syniadau ar gyfer gyrfa dysgwyr i'r dyfodol.
Yn darparu:
- Ymweliadau Addysgol - yn gysylltiedig gyda 4 Piler y cwricwlwm SBA.
- Sgiliau Bywyd Ymarferol - coginio ymarferol yn ein cegin SBA, Sgiliau Byw Annibynnol yn ein fflat pwrpasol yng Nghanolfan Marl, hyfforddiant mewn defnyddio bysiau cyhoeddus, sgiliau arian, ac ati.
- Cyfleoedd Profiad Gwaith Grwp.
- Sesiynau blasu llwybrau cyflogaeth mewn paratoad ar gyfer dilyniant i'n Rhaglenni Paratoi ar Weithio - ar hyn o bryd yn cynnig llwybrau galwedigaethol mewn lletygarwch a manwerthu.
- Sesiynau dysgu awyr agored a all o bosib arwain at gymryd rhan yng Ngwobr Efydd Dug Caeredin.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Sgiliau Byw'n Annibynnol
Dwyieithog:
n/aSgiliau Byw'n Annibynnol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: