Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Canolfan Marl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    Bydd hyd y rhaglen yn dibynnu ar ofynion unigol y dysgwr. Ni fydd yn hwy na 4 blynedd

Gwnewch gais
×

Llwybr 1 - Datblygu Annibyniaeth

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae gan ddysgwyr amserlen a gynlluniwyd ar sail profiadau synhwyraidd unigol ac mae'r rhain wedi eu hamserlennu o gwmpas elfennau pwysicaf a mwyaf perthnasol 4 Piler y cwricwlwm Sgiliau Byw Annibynnol sef: Sgiliau Byw'n Annibynnol Cael Mynediad i'r Gymuned ac Iechyd a Lles.

Gofynion mynediad

Mae cynnig lle ar y cwrs hwn yn amodol ar ganlyniad llwyddiannus o gyfres o gyfarfodydd trosiannol a chyfeiriad gan Gwasanaethau Cymdeithasol, Cydlynydd Anghenion Ychwanegol Ysgolion, Ysgolion Arbennig, Ysgolion a Cholegau Arbenigol annibynnol a Gyrfa Cymru

Gweithio ar Garreg Filltir 1-3

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy amrywiaeth o brofiadau synhwyraidd i hyrwyddo dewisiadau unigol, rhyngweithio cymdeithasol, cyfathrebu a hunanymwybyddiaeth.

Asesiad

Bydd dysgwyr yn dilyn rhaglen nad yw'n cael ei hachredu. Ar ôl gosod targedau unigol, gall dysgwyr gael eu hasesu drwy gyfrwng amrywiaeth o ddulliau sy'n bodloni eu hanghenion dysgu unigol.

Dilyniant

Yn dibynnu ar gyfleoedd lleol, gall dysgwyr symud ymlaen i ganolfannau dydd ac o bosibl, cynlluniau cyflogi gwarchodol.

Gwybodaeth campws Dolgellau

  • Gweithio'n effeithiol gyda gweithwyr proffesiynol a darparwyr gwasanaeth i hwyluso trosglwyddiad esmwyth i'r ac o'r coleg.
  • Cwricwlwm synhwyraidd wedi ei ddarparu i hybu sgiliau cyfathrebu, rhyngweithiad cymdeithasol a gweithgareddau corfforol.
  • Technegau cyfathrebu cyson ac effeithiol yn cael eu defnyddio i hybu cyfathrebu'r dysgwr a sgiliau gwneud dewis
  • Rhyngweithio Dwys Sgiliau rhyngweithiad cymdeithasol yn cael eu datblygu drwy
  • Gweithio yn effeithiol gyda phobl broffesiynol a darparwyr gwasanaeth i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i ac o'r coleg.

Gwybodaeth campws Glynllifon

Gwybodaeth campws Llandrillo-yn-Rhos

  • Mae'r cwrs i ddisgyblion sy'n gadael ysgolion arbennig neu ysgolion arbennig annibynnol ac sy'n byw yn sir Conwy. Rhaid i'r dysgwyr fod wedi cael diagnosis o anawsterau dysgu dwys a lluosog. Gwneir atgyfeiriadau i'r cwrs Dod yn Fwy Annibynnol drwy Wasanaethau Cymdeithasol Conwy a/neu Gyrfa Cymru.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Sgiliau Byw'n Annibynnol

Dwyieithog:

n/a

Sgiliau Byw'n Annibynnol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Sgiliau Byw'n Annibynnol

Myfyrwyr yn planu planhigion