Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Harddu Ewinedd ac Uwch Dechnegau Celf Dwylo ac Ewinedd, Lefel 3 (Dyfarniad VTCT)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    20 wythnos, 3 awr yr wythnos (nosweithiau)

Cofrestrwch
×

Harddu Ewinedd ac Uwch Dechnegau Celf Dwylo ac Ewinedd, Lefel 3 (Dyfarniad VTCT)

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb mewn Technoleg Ewinedd? Hoffech chi ddatblygu rhagor ar eich sgiliau ym maes Technoleg Ewinedd?

Bydd y cwrs hwn yn gwella'ch sgiliau harddu ewinedd a'ch sgiliau ym maes arbenigol celf dwylo ac ewinedd. Cewch feithrin sgiliau technegol ac artistig a fydd yn eich galluogi i greu dyluniadau ar themâu ac yn unol â dymuniadau cleientiaid, yn ogystal â dysgu am drefnau iechyd a diogelwch yn y maes arbenigol hwn.

Mae'r cwrs yn cynnwys:

  • Acryligau
  • Hylif a Phowdr
  • Technegau Celf Ewinedd
  • Harddu Ewinedd
  • Ewinedd Naturiol
  • Y dwylo
  • Y breichiau
  • VTCT L2 Atal Heintiau (COVID-19) ar gyfer Therapi Harddwch a Gwasanaethau Ewinedd

Gofynion mynediad

  • Technoleg Ewinedd Lefel 2
  • Therapi Harddwch Lefel 2

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Sesiynau ymarferol
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Amgylchedd salon go iawn

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Arsylwi ar waith
  • Aseiniadau
  • Astudiaethau achos
  • Perfformiad

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch