Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Contractio ym maes Adeilad

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos, 9am - 5pm

Cofrestrwch
×

Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Contractio ym maes Adeilad

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae prentisiaeth ym maes adeiladu yn dilyn patrwm hyfforddiant galwedigaethol i gwrdd ag anghenion fframwaith sydd wedi'i gymeradwyo gan CITB. Mae hyn arwain at ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ac yn cynnig cyfle i arddangos y rhain wrth gasglu tystiolaeth ar gyfer y cymhwyster mewn amgylchedd adeiladu go iawn. Caiff prentisiaid sy'n dilyn y fframwaith hwn eu hasesu'n barhaus er mwyn gweld pa mor gymwys ydynt i fynd ymlaen i ddilyn Prentisiaeth Uwch (Lefel 4 neu uwch).

Mae Diploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig yn greiddiol i Ddiploma NVQ Lefel 3 mewn Gweithrediadau Contractio ym maes Adeiladu, ac felly bydd yr ymgeisydd yn ennill dau gymhwyster ar ddiwedd y cwrs.

Cyflwynir y dystysgrif dechnegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos ynghyd â chyngor a sesiynau adolygu i gasglu'r dystiolaeth sy'n seiliedig ar waith angenrheidiol i gwblhau'r NVQ.

Cyflwynir y dystiolaeth ar blatfform ar-lein sy'n golygu bod modd cael mynediad at y portffolio bob amser ac y gellir rheoli'r meini prawf mewn modd cyfannol. ⁠Mae cynlluniau dysgu unigol yn cynnig cyfeiriad clir i bob prentis mewn perthynas â'u cynnydd drwy gyfrwng adolygiadau rheolaidd sydd yn rhoi cyfle i gyflogwyr fonitro eu buddsoddiad yn y cynllun.

Gofynion mynediad

I fodloni'r meini prawf mynediad ar gyfer y Brentisiaeth, dylai fod gennych gymhwyster ôl-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu neu'ch bod wedi cael o leiaf flwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd ar ôl gadael addysg orfodol.

Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy’n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau isod:

  • Darlithoedd

  • Seminarau

  • Tiwtorialau

  • Ymweliadau â safleoedd (gall rhai o'r rhain fod yn ymweliadau rhithwir)

  • ⁠Teithiau maes

  • Rhoi sgiliau a gwybodaeth ar waith yn ymarferol

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Aseiniadau
  • Tasgau ymarferol
  • Cyflwyniadau
  • Arholiad Allanol
  • Portffolio yn cynnwys tystiolaeth sy’n seiliedig ar waith.

Dilyniant

Bydd amrywiaeth o gyfleodd gyda llwybr gyfra strwythuredig iddynt y gall prentisiaid gymryd rhan ynddynt yn cynnwys Adeiladu, Peirianneg Sifil a gwaith Arbenigol. Mae llwybrau dilyniant yn cynnwys Diploma NVQ Lefel 4 mewn Arolygu Safleoedd Adeiladu, Diploma NVQ Lefel 6 mewn Gweithrediadau Contractio ym maes Adeiladu neu Diploma NVQ Lefel 6 mewn Rheoli Safleoedd Adeiladu.

Fel arall, gellir dilyn cymwysterau Addysg Uwch fel HNC/HND mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig, Peirianneg Sifil, Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu, Adeiladwaith neu Reoli ym maes Adeiladu. Gallai hyn, pe dymunir, arwain at ddilyniant pellach drwy ddilyn Gradd Sylfaen mewn Adeiladu a'r Gymdeithas Adeiledig, Peirianneg Sifil, Rheoli ym maes Adeiladu, Cadwraeth a Gwaith Adfer, Gwaith Mesur Meintiau, Pensaernïaeth/Dylunio, Technoleg Bensaernïol neu Arolygu Adeiladau.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'