Y Gyfraith - Dechreuwyr
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Pwllheli
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
10 wythnos y tymor. Un diwrnod yr wythnos / 5 awr yr wythnos, gyda’r opsiwn o gwblhau tri cylch 10 wythnos yn ystod y flwyddyn academaidd.
Y Gyfraith - DechreuwyrPotensial (Dysgu Gydol Oes)
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Yn ystod y cwrs byddwch yn edrych ar y System Gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, byddwch yn edrych ar gyfraith droseddol a sifil yn ogystal ag edrych ar system y llysoedd a hierarchaeth y llysoedd yn ogystal â phersonél y llysoedd . Byddwch hefyd yn edrych ar y gyfraith mewn perthynas â Chydraddoldeb a gwahaniaethu.
Fe'ch anogir hefyd i wella'ch sgiliau llythrennedd a llythrennedd digidol trwy gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, ysgrifennu traethodau, creu a chyflwyno cyflwyniadau, a chymryd rhan mewn dadleuon ar bynciau cyfreithiol.
Cwrs fydd yn eich cynorthwyo i ddychwelyd yn ol i ddysgu, eich cynorthwyo i fagu hyder, dychwelyd yn ol i’r ystafell ddosbarth, dod o hyd i drefn i’ch dysgu, gwellau sgiliau llythrennedd digidol, gwella eich sgiliau llythrennedd siarad a gwrando yn ogystal ac ysgrifennu.
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Cyflwyniad
Cynhelir y gwersi yn y dosbarth gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dysgu. Dewisir y rhain ar sail anghenion unigol y myfyrwyr ym mhob grŵp.
Asesiad
Dim.
Dilyniant
- Gwersi cyflogadwyedd
- Gwersi llythrennedd
- Gwersi llythrennedd digidol
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Dychwelwch i'r astudiaeth