Rhoi Sglein ar eich Sgiliau ar gyfer Coleg (Dechrau Ionawr)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Y Rhyl
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
34 wythnos
Rhoi Sglein ar eich Sgiliau ar gyfer Coleg (Dechrau Ionawr)Llawn Amser (Addysg Bellach)
Mae'r system gwneud ceisiadau ar gau ar hyn o bryd.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ddim yn siŵr pa gam i'w gymryd nesaf?
Efallai na chawsoch y graddau roeddech wedi gobeithio eu cael yn yr ysgol?
Os ydych yn ansicr ynglŷn â'ch cam nesaf ac yn awyddus i ddod i'r coleg, efallai mai'r rhaglen 'Rhoi Sglein ar eich Sgiliau ar gyfer Coleg' yw'r dewis iawn i chi.
Yn ystod y flwyddyn byddwn ni'n eich helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer cyflogaeth neu astudio ymhellach yn y coleg. Cewch hefyd gyfle i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i weithio gydag eraill. Byddwn yn eich helpu i wneud hyn drwy wahanol weithgareddau a thripiau gan gynnwys ymweliadau â safleoedd hanesyddol yn Lerpwl a Llanberis, gweithgareddau glan môr yng nghoedwig Niwbwrch, dyddiau chwaraeon a llawer iawn rhagor
Cymhwyster City and Guilds mewn Sgiliau Cyflogadwyedd a Datblygiad Personol a Chymdeithasol yw'r prif gymhwyster. Rydym hefyd yn cynnwys cymwysterau Mathemateg a Saesneg, ac os oes galw gall y rhain fod ar lefel TGAU.
Gofynion mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- Bydd disgwyl i chi ddangos eich ymrwymiad i ddysgu trwy gyflawni'ch graddau targed yn eich arholiadau TGAU a chael presenoldeb da ym mlwyddyn 11.
- Cwblhau rhaglen Hyfforddeiaeth, Cyn-alwedigaethol, Llwybrau Dysgu neu Gyswllt Ysgolion yn llwyddiannus
- Profiad perthnasol mewn diwydiant
Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Trafodaethau
- Astudiaethau achos
- Ymweliadau addysgol
- Gwaith grŵp
- Astudio yn eich amser eich hun
- Dysgu yn y dosbarth
- Cefnogaeth tiwtor
- MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Asesiad
Rydym yn defnyddio sawl dull asesu. Mae'n bosib y byddwch yn gyfarwydd â rhai ohonynt ac efallai y bydd eraill yn brofiad newydd. Bydd y dulliau hyn yn cynnwys:
- Gwaith cwrs
- Aseiniadau grŵp
- Cyflwyniadau
- Chwarae rôl
- Arsylwadau
- Arholiadau
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, mae'n bosibl y byddwch yn barod i weithio mewn maes rydych wedi'i fwynhau, neu efallai y byddwch yn dewis astudio ar un o'r rhaglenni Lefel 2 amrywiol a gynigir ar draws y Grŵp.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Busnes a Gweinyddiaeth
- Cyn-Alwedigaethol
Dwyieithog:
n/a