Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

SSIE Saesneg Trylwyr: Llwybr Academaidd a Phroffesiynol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:
    6 mis/1 flwyddyn/2 flynedd
Gwnewch gais
×

SSIE Saesneg Trylwyr: Llwybr Academaidd a Phroffesiynol

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), ac mae'n addas ar gyfer pobl â chymwysterau academaidd yn eu hiaith gyntaf sydd angen y sgiliau iaith i symud ymlaen i brifysgol neu'r proffesiynau (e.e. meddyginiaeth).

Mae Saesneg Academaidd Cyn-sesiynol yn cael ei gynnwys yn y llwybr hwn, ac yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor. Enillir cyfraddau llwyddiant rhagorol gan fyfyrwyr o bob cwr o'r byd. Cynhwysir pob agwedd ar iaith academaidd a phroffesiynol, mewn sefyllfaoedd gwaith ac astudio. Mae myfyrwyr yn cael eu paratoi'n dda iawn ar gyfer astudio a chyflogaeth broffesiynol yn y DU. Mae'r pynciau yn cynnwys:

  • Saesneg cyffredinol
  • Sgiliau Siarad a Gwrando
  • Sgiliau Darllen a Ysgrifennu
  • Saesneg academaidd
  • Sgiliau astudio
  • Tiwtorialau personol

Dylai myfyrwyr rhyngwladol cysylltu â'r Swyddfa Ryngwladol - ewch at gllm.ac.uk/international am ragor o wybodaeth.

Gofynion mynediad

  • 6 mis (mynediad ym mis Ionawr): Gofynion Mynediad Lleiaf = 3/B1 neu IELTS 5
  • 1 flwyddyn (mynediad ym mis Medi): Gofynion Mynediad Lleiaf = 2/A2 neu IELTS 4
  • 2 flynedd: Cyn-Mynediad 1/A1

Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Amserlen dosbarth llawn gyda rhaglen o astudio preifat ychwanegol.

Asesiad

  • Asesu parhaus gydag arholiadau mewnol ar ddiwedd y tymor
  • Arholiadau mewnol ac allanol ar ddiwedd y cwrs

Dilyniant

Wedi cwblhau, gallech fynd ymlaen i:

  • Astudiaeth Israddedig neu Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor neu brifysgolion eraill yn y DU
  • Cyrsiau gradd HND, Sylfaen neu Anrhydedd yn Grŵp Llandrillo Menai
  • Cyflogaeth broffesiynol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Maes rhaglen:

  • ESOL

Dwyieithog:

n/a

ESOL