Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cefn Gwlad a'r Amgylchedd (gan cynnwys Coedwigaeth) Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Glynllifon
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Cefn Gwlad a'r Amgylchedd (gan cynnwys Coedwigaeth) Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Glynllifon

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa ym maes coedwigaeth neu'n rheoli cefn gwlad a'r amgylchedd? A fyddech chi'n elwa o ddilyn cwrs Lefel 2 ymarferol a galwedigaethol?

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â rhywfaint o wybodaeth am y diwydiant, ac sydd am ddysgu rhagor am amrediad o bynciau a materion amgylcheddol. Bydd yn eich paratoi i ddechrau gyrfa neu i fynd ymlaen i ennill cymwysterau galwedigaethol uwch.

Mae'r cwrs yn addas i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs Lefel 1 perthnasol, i rai sydd newydd sefyll eu TGAU, neu i rai sydd â phrofiad blaenorol. Canolbwyntia ar waith ymarferol, a chynhelir sesiynau yn y dosbarth i'ch helpu i ehangu'ch gwybodaeth. Byddwch yn elwa ar y cyfleusterau rhagorol sydd yng Nglynllifon ac ar arbenigedd ein staff.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith ymarferol, gyda rhai sesiynau yn y dosbarth i wella dealltwriaeth
  • Saif Glynllifon ar 750 acer o dir amaethyddol a choetir, a cheir yno adnoddau arbenigol a chyfarpar arbenigol er mwyn i chi allu astudio coedwigaeth mewn amgylchedd realistig.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Asesiadau ymarferol yn y rhan fwyaf o'r unedau
  • Aseiniadau ysgrifenedig i ddangos eich dealltwriaeth

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau. Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Rheoli Cefn Gwlad (gan gynnwys Coedwigaeth) Lefel 3
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cadwraeth Amgylcheddol

Gallech hefyd fynd ymlaen i ddilyn Prentisiaeth neu i waith.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Coedwigaeth a Rheoli Cefn Gwlad

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Glynllifon

Coedwigaeth a Rheoli Cefn Gwlad

Myfyriwr yn torri coeden gyda chainsaw