Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 3 CIM mewn Egwyddorion Marchnata (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    10 sesiynau

Gwnewch gais
×

Dyfarniad Lefel 3 CIM mewn Egwyddorion Marchnata (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Anelir y cwrs hwn at unigion sydd â swydd sy'n cynnwys elfen o farchnata, neu rai sydd am ddysgu rhagor am farchnata a chael gyrfa yn y maes.

Mae'r modiwl hwn yn cynnig dealltwriaeth o'r prif gysyniadau a'r derminoleg a ddefnyddir ym maes marchnata. Cynigir gwybodaeth a dealltwriaeth o bwrpas a gwaith marchnata mewn sefydliadau, ac archwilir y ffactorau sy'n dylanwadu ar ymddygiad y defnyddiwr. Nodir prif elfennau'r amgylchedd marchnata gan edrych ar sut i gasglu a defnyddio gwybodaeth berthnasol sy'n ymwneud â'r amgylchedd marchnata. Amlinellir y cysyniadau a'r elfennau sy'n rhan o gyfuniad marchnata a sut caiff y rhain eu rhoi ar waith.

Mae manteision dilyn cwrs CIM yn cynnwys:

  • Ennill cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig a all arwain at swyddi a chyfleoedd newydd o ran gyrfa
  • Ennill sgiliau marchnata newydd
  • Cyfle i roi eich sgiliau newydd ar waith
  • Meithrin eich gallu i farchnata'n broffesiynol
  • Meithrin eich sgiliau cyfathrebu â chwsmeriaid

Gofynion mynediad

Nid oes angen profiad blaenorol.

Cyflwyniad

Sesiynau yn y coleg, gwaith dosbarth, gwaith grŵp, astudio personol, cefnogaeth tiwtor i gwblhau aseiniadau seiliedig ar waith.

Asesiad

Byddwch yn cwblhau un aseiniad sy'n cynnwys sawl tasg wahanol.

Dilyniant

Tystysgrif Sylfaen mewn Marchnata

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth