Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 3 CIM mewn Hanfodion Marchnata Digidol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    10 sesiwn ar-lein wythnosol, 9.30am tan 2.30pm

Gwnewch gais
×

Dyfarniad Lefel 3 CIM mewn Hanfodion Marchnata Digidol

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn addas i weithwyr marchnata newydd neu rai sy'n awyddus i weithio yn y diwydiant ac am gael cyflwyniad i'r maes.

Felly, os hoffech weithio ym maes marchnata, neu os ydych newydd ddechrau gweithio mewn swydd farchnata neu swydd sy'n cynnwys marchnata digidol, ein cymwysterau Lefel 3 yw'r dewis iawn i chi.


Gofynion mynediad

Nid oes rhaid wrth brofiad neu wybodaeth flaenorol o farchnata i ddilyn y cwrs hwn.

Cyflwyniad

Sesiynau ar-lein dan arweiniad tiwtor, gan ddefnyddio cyflwyniadau a thrafodaethau grŵp. Caiff y rhai sy'n ddihyder gefnogaeth i ysgrifennu'r aseiniad.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gyfrwng aseiniad seiliedig ar waith, a all gael ei seilio ar sefydliad o'ch dewis.

Dilyniant

Dyfarniad mewn Egwyddorion Marchnata, neu symud ymlaen i gymhwyster Lefel 4.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth