Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyrraedd y Coleg: Canllawiau ar Gludiant i Ddysgwyr Glynllifon

Dysgwyr sy'n byw yng Ngwynedd

  • Lawrlwytho ap Tocyn Teithio 16+ Gwynedd
  • Dilyn y cyfarwyddiadau i gofrestru gyda Chyngor Gwynedd
  • Llenwi'r ffurflen gais fer
  • Galwch heibio i'r Gwasanaethau i Ddysgwyr a gall y tîm eich helpu i wneud cais am bàs bws

Canllawiau cam wrth gam i wneud cais:

Bysus Gwynedd - Sut i archebu 'E-Ticket'

  • Lawrlwytho ap Galw Gwynedd ar y ffon!
  • Logio mewn i wefan Galw Gwynedd;
  • Clicio ar Parcio, ffyrdd a theithio
  • Clicio ar Tocynnau Teithio
  • Clicio ar Tocyn Teithio 16+
  • Clicio ar Archebu Tocyn Teithio 16+ ar-lein
  • Creu cyfrif Newydd / Cofrestru NEU Logio mewn i gyfrif Galw Gwynedd
  • Mynd ar ap Cyngor Gwynedd a lawrlwytho 'E-Ticket'

Manylion Galw Gwynedd - 01766 771000

Amserlenni bws i ddysgwyr sy'n byw yng Ngwynedd

Dysgwyr sy'n byw ym Môn

Amserlenni bws i ddysgwyr sy'n byw ym Môn

Dysgwyr sy'n byw yn siroedd Conwy a Dinbych

O fis Medi 2025 ymlaen, bydd polisïau trafnidiaeth Sir Conwy yn newid. ⁠Darllenwch bolisi teithio Cyngor Conwy yn ogystal â Canllawiau ar Gludiant am Ddim i'r Ysgol neu'r Coleg i Ddysgwyr Ôl-16 sy'n byw yn Sir Conwy i weld a ydych chi'n bodloni'r meini prawf.

Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf, neu os nad ydych chi wedi derbyn eich pàs bws erbyn 26 Awst, cysylltwch â Llinos Morris arllinos.morris@gllm.ac.uk neu 01286 830 261 est. 8535 i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych chi'n byw yn siroedd Conwy neu Ddinbych, ac na all eich awdurdod lleol eich cefnogi i fynychu'r campws rydych chi wedi ei ddewis, fe wnawn ni bopeth yn ein gallu i sicrhau eich bod chi'n gallu cyrraedd y coleg. Cysylltwch â'r Gwasanaethau i Ddysgwyr yn y coleg i gael cyngor a chefnogaeth ar gyrraedd y coleg.

Gwasanaethau Tacsi'r Awdurdodau Lleol:

Gwneir ceisiadau am gludiant dyddiol mewn tacsi i'r coleg trwy eich awdurdod lleol, yn unol â'u polisi trafnidiaeth. Nid yw'r coleg yn darparu tacsis dyddiol ond gall gefnogi dysgwyr sy'n dymuno gwneud cais trwy helpu gyda phroses ymgeisio'r awdurdod lleol. Yn y rhan fwyaf o achosion, os cawsoch gludiant dyddiol mewn tacsi tra oeddech yn yr ysgol, bydd eich awdurdod lleol wedi cysylltu â chi erbyn diwedd y flwyddyn academaidd gyfredol i gadarnhau eich trefniadau cludiant. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Gwasanaethau i Ddysgwyr neu anfonwch e-bost i cludiant@gllm.ac.uk.

Beicio:

Ar bob campws ceir man penodol i barcio beiciau - peidiwch ag anghofio cloi!

Car:

Cewch barcio am ddim ar bob un o'r campysau.

Trên:

Mewn rhai achosion, gall yr awdurdod lleol ganiatáu i chi deithio ar drên. Bydd yr awdurdod lleol yn cadarnhau hyn gyda chi ar ôl i chi wneud cais am eich pàs teithio. Gall dysgwyr sy'n teithio'n rheolaidd ar y trên arbed arian gyda cherdyn rheilffordd 16‑25 neu gerdyn rheilffordd arall – ewch i https://www.railcard.co.uk/

Bws Arriva:

Gall pob myfyriwr brynu tocyn bws Arriva am bris gostyngol. Mae modd prynu'r rhain ar y bws drwy ddangos tocyn bws dilys neu gerdyn ID myfyriwr, neu gellir eu prynu bob tymor neu bob blwyddyn oddi ar wefan Arriva: www.arrivabus.co.uk/students

Mae rhagor o ostyngiadau ar gael ar y ddolen ganlynol: fyngherdynteithio.llyw.cymru/cy/. Mae'n cynnig traean yn rhagor oddi ar gost teithio ar fws cyhoeddus i fyfyrwyr o dan 21 oed.



Angen Help?

Galwch heibio i'r Gwasanaethau i Ddysgwyr ar eich campws neu anfonwch neges e-bost i cludiant@gllm.ac.uk. Rydym ni yma i helpu.


Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date