Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol Coedwigaeth
Mae’r adran Coedwigaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad wedi ei leoli ar safle Glynllifon. Mae myfyrwyr yn astudio cyrsiau llawn amser lefel 2 a 3. Bydd myfyrwyr yn mynd ymlaen i’r byd gwaith trwy weithio i cyflogwyr sydd yn arbenigh mewn nifer o feusydd priodol fel cynnal a chadw ystad, cynnal a chadw tir, plannu gofalu a chynaeafu coed, cadwraeth cefn gwlad a natur, prosesu coed i gynhyrchion. Bydd cyflogwyr yn bechnogion coedwigoedd a tir neu yn gwmniau gwerthy gwasanaethau. Gydag arweiniad, fe fydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn gweithio i ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau myfyrwyr trwy gynllunio gweithgareddau ymarferol. Mae'r tasgau hyn yn dilyn cynllun gwaith sy'n datblygu yn ystod y tymor i sefydlu cymhwysedd myfyrwyr fel eu bod yn cyrraedd gofynion y cwrs. Fel rhan o’r swydd mae proses ffurfiol o asesu myfyrwyr yn defnyddio meini prwf byrddau arholi, mae cwblhau’r broses yma yn rhan pwysig o’r swydd. Mae’r adran yn hyfforddi myfyrwyr mewn agweddau gwahanol o gwaith coedwigaeth trwy ddefnyddio adnoddau Coleg Glynllifon. Mae 350 acer o goedwig amrywiol ar y safle ynghyd a iard goed gyda amrywiaeth o beiriannu perthnasol yn cynnwys melin goed dan do, peiriannau prosesu coed, blaenwr coedwigaeth a winsh yn ogystal a peiriannau llai fel llif-gadwyn a strimiwr. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddianuf fod yn gyfarwydd a defnyddio ystod eang o beiriannu a prosesau mewn ffordd saff gyda profiad o weithio yn ymarferol mewn diwydiant perthnasol. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gymryd cyfrifoldeb am sicrhau diogelwch peiriannau trwy archwilio offer a thrwsio lle yn ymarferol. Bydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn cynorthwyo a chefnogi darlithwyr i nodi ac asesu cynnydd dysgwyr gan gynnig arweiniad a cefnogaeth. Bydd y person llwyddiannus yn asesu myfyrwyr ar rhai agweddau o’r cwrs yn erbyn meini prawf perthnasol. |
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/173/25
Cyflog
£32,192.24 - £34,347.66 yn dibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Glynllifon
Hawl gwyliau
- ● 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- ● Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- ● Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
11 Gorff 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.
Achrediadau Cyflogaeth
Datganiad Gwrth-hiliaeth
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.
Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.
Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)
- Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
- Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
- Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
- Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
- Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
- Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.
Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.
I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk