Swyddog Adnoddau Dynol
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol i gefnogi’r Tîm Adnoddau Dynol i roi cyngor a chefnogaeth i’r rheolwyr a’r staff ar faterion cyflogaeth a lles. Byddwch yn darparu gwasanaeth adnoddau dynol cynhwysfawr, rhagweithiol a chyfrinachol i’r Tîm gan sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau cyflogaeth y Grŵp. Disgwyliwn i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu’n bositif tuag at welliant parhaus yn nodau ac amcanion y Tîm gan ystyried ein gwerthoedd gwerth am arian. Byddwch yn arwain ar, a cheidwad y bas-data adnoddau dynol a’r bas-data rheoli amser.
Rydym yn chwilio am rywun i adlewyrchu ein gwerthoedd ac sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu gwasanaeth rhagorol i'n staff, lle mae ein tenantiaid yn greiddiol i'n gwaith.
Sut i wneud cais
Ar wefan y cyflogwyr
Manylion Swydd
Lleoliad
Denbigh
Sir
Sir Ddinbych
categori
Llawn Amser
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Gwefan
https://www.grwpcynefin.org/ymunwch-ar-tim/swyddi-gwag/
Dyddiad cau
06.05.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk