Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

RTITB Hyfforddiant Gwrthbwyso Wagen Fforch Godi Codau ABA B1, (Cwrs Gloywi)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod - mwyafswm 3 gweithredydd.

Gwnewch gais
×

RTITB Hyfforddiant Gwrthbwyso Wagen Fforch Godi Codau ABA B1, (Cwrs Gloywi)

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithredwyr sydd yn dal ardystiad o hyd, ond sydd i fod i gael y cwrs gloywi a argymhellir cyn hir. Mae'r HSE yn argymell fod y cymhwyster yn cael ei loywi rhwng 3 a 5 mlynedd.

Bydd y cwrs hyfforddi gweithredydd Tryc Codi Gwrthbwyso RTITB (a gyfeirir yn aml fel fforch godi) yn rhoi'r sgiliau i chi weithredu'r tryc yn ddiogel ac effeithiol, gwneud archwiliad cyn-ddefnydd, a chofio ac esbonio achosion ansefydlogrwydd tryc a llwyth.

⁠Mae'r cwrs hwn yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i'r ardaloedd canlynol:

  • Rheolyddion ac offerynnau Tryc Codi
  • Cychwyn/symud/stopio a llywio'r tryc
  • Gweithredu'r rheolyddion hydrolig
  • Gyrru ar/oddi ar ramp
  • Llenwi a dad-lenwi cerbyd
  • Stacio a dadstacio
  • Sefydlogrwydd Tryc Codi

Gofynion mynediad

Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithredwyr sy'n gallu dangos tystiolaeth o hyfforddiant ffurfiol blaenorol (mewnol neu wedi'i achredu) – Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn argymell bod y cymhwyster yn cael ei loywi bod 3 i 5 mlynedd.

Gellir derbyn tystysgrifau sy'n hŷn na 5 mlwydd oed os darperir datganiad wedi'i lofnodi o brofiad blaenorol a chwblheir asesiad o allu ymarferol ar ddiwrnod yr hyfforddiant.

Gall dysgwyr hefyd ddewis y cwrs i "Ddefnyddwyr Profiadol" os ydynt yn teimlo bod arnynt angen mwy o hyfforddiant nag mae'r Cwrs Gloywi'n ei gynnig ond nid ydynt am ail-wneud y cwrs llawn i Ddechreuwyr.

Cyflwyniad

Byddwch yn dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o addysgu ac ymarferion ymarferol yn y dosbarth.

Asesiad

  • Asesiad ysgrifenedig
  • Asesiad ymarferol

Dilyniant

Gallech ddewis un o blith amryw o gyrsiau gwahanol sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

n/a

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'