Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl, Caernarfon
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Cwrs Cyn-fynediad i Addysg Uwch

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Caernarfon

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r rhaglen hon yn addas i fyfyrwyr sy'n dymuno mynd ymlaen i astudio ar Lefel 3 ac sydd â'u bryd ar ddilyn cwrs addysg uwch.

Byddwch yn astudio amryw o feysydd sy'n ymwneud â'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddilyn rhaglen Lefel 3 yn llwyddiannus. Mae TGAU Mathemateg yn rhan o'r rhaglen.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn dylech fod wedi cael profiad mewn sgiliau bywyd perthnasol am o leiaf dair blynedd ar ôl gadael addysg orfodol. Byddwch hefyd angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • Ardal ddysgu rithwir (MOODLE)

Asesiad

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Arholiadau
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch
  • Cymwysterau Lefel AS/Lefel A
  • Cymwysterau galwedigaethol Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Mynediad i Addysg Uwch

Dwyieithog:

n/a

Mynediad i Addysg Uwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Mynediad i Addysg Uwch

Dysgwr addysg uwch yn astudio