OFTEC OFT10-101 Gwasanaethu a Chomisiynu Jet Pwysedd Un Cam
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
Mae hyfforddiant undydd ar gael ar gyfer y cymhwyster OFTEC 101, sy'n ddiwrnod 'ymarferol' ar y gwaith o gomisiynu a gwasanaethu boeleri olew.
Dylai un diwrnod fod yn ddigon i gwblhau'r asesiad ar gyfer OFTEC 101 (ar ben unrhyw hyfforddiant a wnaed)
OFTEC OFT10-101 Gwasanaethu a Chomisiynu Jet Pwysedd Un Cam
Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Llyfrau Cwrs
Noder nad yw llyfrau cwrs yn gynwysedig yn ffi'r cwrs, ac nid ydynt yn cael eu darparu ar gyrsiau a ariennir.
Gellir prynu'r llyfrau sydd eu hangen trwy ein swyddfa un ai:
- Cyn i'r cwrs ddechrau (argymhellir), neu
- Ar ddiwrnod eich hyfforddiant.
Mae’r llyfrau canlynol yn orfodol ar gyfer y cwrs hwn:
OFTEC- Technical Manual
Mae’r cwrs ymarferol hwn yn addas i'r sawl sydd un ai'n newydd i gomisiynu neu wasanaethau cyfarpar olew pwysedd jet neu oedd yn arfer meddu ar y cymhwyster ond sy'n awyddus i ddiweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau.
Pwrpas y cwrs hwn yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i weithwyr am reoliadau a mynd â hwy drwy'r trefnau cywir ar gyfer dadansoddi hylosgiadau a chomisiynu/gwasanaethu cyfarpar olew pwysedd jet.
Mae OFTEC-101 yn ofynnol i unrhyw weithredydd sy'n dymuno gweithio ar gyfarpar pwysedd jet domestig ac mae'n cynnwys
- Codau ymarfer
- Ynysu trydan yn ddiogel
- Camau ymarferol comisiynu boeleri
- Gwasanaethu llosgyddion
- Adnabod namau ar systemau
- Adnabod ac unioni namau mewn boeleri/llosgyddion
- Dadansoddi hylosgiadau
- Theori hylosgiad
- Gofynion awyru
Gofynion mynediad
Llyfrau Cwrs
Noder nad yw llyfrau cwrs yn gynwysedig yn ffi'r cwrs, ac nid ydynt yn cael eu darparu ar gyrsiau a ariennir.
Gellir prynu'r llyfrau sydd eu hangen trwy ein swyddfa un ai:
- Cyn i'r cwrs ddechrau (argymhellir), neu
- Ar ddiwrnod eich hyfforddiant.
Mae’r llyfrau canlynol yn orfodol ar gyfer y cwrs hwn:
OFTEC- Technical Manual
Rhaid i'r sawl sydd am ddilyn y cwrs hwn fod un ai'n weithwyr profiadol ym maes olew, neu fod ar gofrestr GAS SAFE o weithredwyr systemau gwresogi.
Gofynnir i'r holl gyfranogwyr i ddod â'u tystysgrifau gwreiddiol (OFTEC 101) a phedwar llun maint pasbort gyda nhw ar y diwrnod cyntaf, gall methiant i ddarparu'r rhain arwain at fethu parhau gyda'r hyfforddiant ar y diwrnod.
Cyflwyniad
Gweithdy ymarferol a gwaith cwrs theori
Asesiad
Asesiad o waith ymarferol a phapur o gwestiynau aml-ddewis
Dilyniant
Bydd y dysgwyr sy'n cwblhau'r asesiad yn llwyddiannus yn gymwys i wneud cais i ymuno â chynllun Unigolion Cymwys OFTEC
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
