Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Asesu Risg Legionella a Diheintiad Dŵr ar gyfer Gwasanaethau Mecanyddol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod

Gwnewch gais
×

Asesu Risg Legionella a Diheintiad Dŵr ar gyfer Gwasanaethau Mecanyddol

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bwriedir y cwrs Diheintio Systemau Dŵr ar gyfer unigolion sydd am ddiheintio systemau dŵr oer a systemau dŵr poeth.

Mae'n egluro priodweddau dŵr gan ganolbwyntio'n arbennig ar sut i atal datblygiad y bacteria niweidiol 'legionella pneumopjila' sy'n achosi clefyd y lleng filwyr.

Mae'r cwrs yn egluro'n fanwl sut i ddiheintio systemau dŵr ac yn rhestru'r cemegau a ddefnyddir yn y broses. Dangosir yn ymarferol sut i ddiheintio system ddŵr yn gywir.

Ffi: £200

Gofynion mynediad

  • Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cynnwys 2 fodiwl neu gymhwyster gwahanol a gyflwynir dros 2 ddiwrnod unigol, sef:

Modiwl 1: Asesu Risg Systemau Dŵr Oer a Dŵr Poeth Domestig

Modiwl 2: Diheintio Systemau Dŵr

Asesiad

Cynlluniwyd yr asesiadau mewn modd sy'n sicrhau bod pob ymgeisydd drwy'r wlad yn cael ei drin yn deg a chyfartal. Mae hyn yn sicrhau bod cyflogwyr a chwsmeriaid yn gallu bod yn hyderus bod gweithwyr a aseswyd mewn canolfan asesu a gymeradwywyd gan BPEC Ltd yn gymwys i weithio'n ddiogel.

Dilyniant

Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

n/a

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'