Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

ILM Lefel 3 Tystysgrif mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    11 sesiwn

Gwnewch gais
×

ILM Lefel 3 Tystysgrif mewn Arwain a Rheoli (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli'n ddelfrydol i unigolion sy'n ysgwyddo cyfrifoldebau rheoli ond nad ydynt wedi cael hyfforddiant ffurfiol, ac sydd o ddifrif ynghylch datblygu eu medrau.

Mae'n arbennig o addas i arweinwyr tîm sydd am gael dyrchafiad i'r lefel reoli nesaf, ac i reolwyr y mae gofyn iddynt arwain pobl drwy newid sefydliadol, toriadau cyllidebol neu sefyllfaoedd anodd eraill

O'ch safbwynt chi, manteision dilyn y cwrs hwn yw:
  • Dysgu amrywiaeth o sgiliau rheoli pwysig
  • Defnyddio sgiliau newydd yn eich swydd
  • Gwella'ch gallu i arwain
  • Cymell ac ennyn diddordeb timau, a rheoli cysylltiadau'n hyderus

Datblygu'ch sgiliau arwain gan ddefnyddio'ch gwybodaeth, eich gwerthoedd a'ch cymhellion eich hun

  • Cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant i arweinwyr timau a darpar reolwyr

O safbwynt eich cyflogwr, manteision dilyn y cwrs hwn yw:

  • Rheolwyr effeithiol a hyderus
  • Cysylltiadau a chyfathrebu gwell mewn timau

Canlyniadau mesuradwy: mae'r asesu yn y gweithle'n sicrhau y caiff y sgiliau newydd eu trosglwyddo'n effeithiol i'ch busnes.

Gofynion mynediad

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol. Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd y rhai a fydd yn dilyn y rhaglen yn:

  • Wedi cwblhau dyfarniad ILM Lefel 3 yn flaenorol (bydd angen i chi gadarnhau'r modiwlau a gwblhawyd gennych fel rhan o'ch dyfarniad)
  • Gweithio fel rheolwyr llinell gyntaf neu'n awyddus i gael gwaith fel rheolwyr
  • Meddu ar Sgiliau Sylfaenol, Llythrennedd a Rhifedd digonol er mwyn gallu elwa i'r eithaf o'r rhaglen
  • Cael cefnogaeth eu cyflogwyr, gyda neu heb nawdd

Cyflwyniad

Cyflwynir y cyrsiau ar ddiwrnod penodedig bob wythnos, a darperir dosbarthiadau rhwng tua 9.30 a 14:30.

Cyflwynir y cwrs ar-lein, gan ddefnyddio Google Meet neu blatfform Zoom.

Mae’n cael ei arwain gan diwtor trwy gyfuniad o sesiynau wedi’u hamserlennu sy’n cynnwys y canlynol:

  • Dosbarthiadau Ar-lein
  • Set Dysgu Gweithredol (grŵp ac unigolyn)
  • Trafodaethau Proffesiynol
  • Astudiaethau achos
  • Cwisiau
  • Cyflwyniadau
  • Hunanasesiadau
  • Astudio Personol dan Gyfarwyddyd
  • Sesiynau Tiwtorial 1 i 1 Personol

Bydd gennych hefyd fynediad i amgylchedd dysgu rhithwir (Moodle) lle mae eich holl adnoddau dysgu, a fydd yn eich cefnogi'n llawn trwy gydol eich astudiaethau.

Mae'r sesiynau yn cael eu cyflwyno yn Saesneg ac mae'r adnoddau sesiwn yn bennaf yn Saesneg er bod rhai adnoddau ar gael yn Gymraeg. Gellir cwblhau/cyflwyno'r aseiniad, a'r portffolio o dystiolaeth yn Gymraeg.

** Dylid nodi fod gliniadur/cyfrifiadur, meicroffon, camera a mynediad i'r rhyngrwyd yn ofynnol ar gyfer y rhaglen hon. Nid yw ffonau symudol a PDA's yn addas ac ni fyddant yn darparu profiad dysgu da.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Aseiniadau seiliedig ar waith
  • Adolygiadau adfyfyriol

Aseiniad seiliedig ar waith (Deall Arloesedd a Newid a Chynllunio ar gyfer Newid) – Pwrpas yr uned hon yw gweld faint yr ydych yn ei wybod a'i ddeall am arloesedd a newid a'r ffactorau a allai ei gwneud yn ofynnol i'ch sefydliad newid, a nodi newid y mae angen ei wneud yn y gweithle ac a fydd o fudd i'r sefydliad.

Deall rheoli perfformiad - Pwrpas yr uned hon yw eich galluogi i ddeall gwerth technegau rheoli perfformiad a sut i'w cymhwyso mewn ffordd deg a gwrthrychol.

Deall dulliau cyfathrebu - Pwrpas yr uned hon yw eich galluogi i ddeall y broses gyfathrebu, y prif ddulliau cyfathrebu a sut i'w defnyddio yn y gweithle.

Rhoi briffiau a gwneud cyflwyniadau - Yn yr uned hon, mae gofyn i chi gynllunio a rhoi cyflwyniad sy'n addas i'ch gweithle. Byddwch yna yn gwerthuso effeithiolrwydd eich cyflwyniad a defnyddio'r adborth a gasglwyd i ganfod meysydd y mae gofyn eu datblygu.

Dilyniant

Mae cwblhau'r cwrs hwn yn eich galluogi i symud ymlaen mewn addysg a chyflogaeth. Os oes gennych swydd reoli eisoes, mae'r cwrs yn eich helpu i fod yn rheolwr effeithiol ac effeithlon.

Byddwch yn datblygu eich arfer proffesiynol ac efallai y byddwch yn gallu gweithio tuag at ddyrchafiad i reolaeth ganol.Ar gyfer eich datblygiad proffesiynol parhaus, gallwch barhau i gwblhau Tystysgrif a Diploma Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli.

Wrth i chi symud ymlaen yn eich gyrfa, gallwch symud ymlaen i Ddyfarniad Lefel 4 ILM mewn Arwain a Rheolaeth sy'n helpu i'ch paratoi ar gyfer cyfrifoldebau rheolaeth ganol.Ar ddiwedd y cwrs, bydd eich tiwtor cwrs yn cael trafodaeth gyda chi am y camau nesaf priodol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth