Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    7 diwrnod

Gwnewch gais
×

Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Y manteision i unigolion

Gwybod beth sydd ei angen i fod yn hyfforddwr a mentor effeithiol

Deall beth yw rôl a chyfrifoldebau hyfforddwyr a mentoriaid effeithiol

Dysgu sut i reoli prosesau hyfforddi a mentora drwy ddefnyddio modelau cydnabyddedig

Rhoi eich sgiliau newydd ar waith drwy gynnal sesiynau hyfforddi neu fentora dan oruchwyliaeth

Dadansoddi eich perfformiad hyfforddi neu fentora er mwyn gwella

Y manteision i gyflogwyr

⁠Defnyddio hyfforddiant a mentora effeithiol i wella perfformiad eich sefydliad

Sicrhau bod gan yr unigolion a ddatblygwch yn hyfforddwyr a mentoriaid y sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd arnynt eu hangen

Gwella'r diwylliant hyfforddi a mentora yn eich sefydliad drwy ddatblygu hyfforddwyr gwirioneddol effeithiol

Gofynion mynediad

Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol yn addas i ⁠ddysgwyr sydd am feithrin y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i hyfforddi neu fentora pobl yn hyderus mewn cyd-destun sefydliadol. Mae hefyd yn gymhwyster delfrydol i'r sawl sy'n awyddus i ddechrau ar yrfa ym maes hyfforddi neu fentora.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

- Darlithoedd

- Gwaith grŵp

- Ymarferion chwarae rôl

- Cwisiau

- Cyflwyniadau

Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg, a Saesneg yw iaith mwyafrif adnoddau'r sesiynau, er bod rhai adnoddau ar gael yn Gymraeg. Gellir cwblhau/cyflwyno'r aseiniad a'r portffolio o dystiolaeth yn Gymraeg.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

- Aseiniad seiliedig ar waith

- Portffolio'n cynnwys dyddiadur hyfforddi a dyddiadur adfyfyriol

Dilyniant

Bydd y cymhwyster hwn yn cynnig cyfleoedd i symud ymlaen i gael cymwysterau eraill fel:

Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli

Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol

Tystysgrif neu Ddiploma lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli

Gwybodaeth campws Abergele

⁠Dwy uned orfodol, i gael 6 chredyd, a 10 credyd o Grŵp 1 neu 10 credyd o Grŵp 2

Modiwlau Gorfodol:

Deall beth yw Arferion Da o ran Hyfforddi mewn Cyd-destun Sefydliadol

Deall beth yw Arferion Da o ran Mentora mewn Cyd-destun Sefydliadol

Grŵp 1

Ymgymryd â Chyfnod Estynedig o Hyfforddi mewn Cyd-destun Sefydliadol

Adfyfyrio ar Sgiliau Hyfforddi mewn Cyd-destun Sefydliadol

Grŵp 2

Ymgymryd â Chyfnod Estynedig o Fentora mewn Cyd-destun Sefydliadol

Adfyfyrio ar Sgiliau Mentora mewn Cyd-destun Sefydliadol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth