Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif Lefel 4 iBSL mewn Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Athrawon Iaith Arwyddion – TSLT

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 Blwyddyn

Cofrestrwch
×

Tystysgrif Lefel 4 iBSL mewn Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Athrawon Iaith Arwyddion – TSLT

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae Tystysgrif Lefel 4 iBSL mewn Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Athrawon Iaith Arwyddion wedi'i chynllunio i ddarparu llwybr at ddysgu gydol oes i bobl Fyddar sy'n ceisio addysgu Iaith Arwyddion Prydain. Bydd myfyrwyr yn ennill gwybodaeth am rolau, cyfrifoldebau a pherthnasoedd mewn addysg a hyfforddiant, dulliau addysgu a dysgu cynhwysol, hwyluso dysgu a datblygu gydag unigolion neu grwpiau a rôl asesu yn y broses addysgu a dysgu.

Modiwlau (rhaid ennill 21 credyd o'r unedau gorfodol)

  • Deall rolau, cyfrifoldebau a pherthnasoedd mewn addysg a hyfforddiant (3 credyd)
  • Darparu addysg a hyfforddiant (6 credyd) Defnyddio adnoddau ar gyfer addysg a hyfforddiant (3 credyd)
  • Asesu dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant (6 credyd)
  • Cynllunio i fodloni anghenion dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant (3 credyd)

Modiwlau Dewisol (lleiafswm o 15 credyd)

  • Addysgu mewn maes arbenigol (15 credyd)
  • Egwyddorion ac arferion addysgu iaith arwyddion (15 credyd)
  • Nodi anghenion dysgu a datblygu unigol (3 credyd)
  • Arfer cynhwysol (15 credyd)

Gofynion mynediad

Mae angen cyfweliad. Rhaid i bob athro dan hyfforddiant sy'n ymuno â'r cymhwyster hwn wneud asesiad sgiliau cychwynnol mewn Saesneg, Mathemateg a TGCh

Cyflwyniad

Bydd y gwersi ar lein, ar Zoom, dros 1 flwyddyn academaidd

Asesiad

Bydd y cwrs hwn yn cael ei asesu trwy gynhyrchu ffeil cwrs a fydd yn cynnwys yr aseiniadau ysgrifenedig neu wedi'u harwyddo sy'n gysylltiedig â phob uned, ac adborth a dderbynnir o arsylwadau addysgu a sesiwn micro-ddysgu.

Rhaid cysylltu’r tri arsylwad â’r unedau gorfodol canlynol:

Darparu addysg a hyfforddiant

Asesu dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant

Defnyddio adnoddau ar gyfer addysg a hyfforddiant

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Byddar ac Iaith Arwyddion

Dwyieithog:

Dim

Astudiaethau Byddar ac Iaith Arwyddion