Dyfarniad Highfield Lefel 3 Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo, Gweithgynhyrchu neu Fanwerthu
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele, Dolgellau, Parc Menai (Busnes@LlandrilloMenai)
- Math o gwrs:Cyrsiau Byr
- Dull astudio:Rhan amser
- Lefel:3
- Maes rhaglen:Lletygarwch ac Arlwyo
Cynhyrchu Bwyd - Hyd:
3 diwrnod
- Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Llangefni
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r gyfraith yn nodi bod angen i'r rhai sy'n trin bwyd gael eu hyfforddi yn unol â'u gweithgareddau trin bwyd yn y gwaith. Os bydd gweithiwr yn cyflawni cymhwyster diogelwch bwyd Highfield, sy'n addas ar gyfer y gwaith maent yn eu gwneud, bydd yn helpu'r gweithredwyr busnes bwyd i brofi eu bod wedi dangos diwydrwydd ac felly'n ufudd yng ngolwg y gyfraith. Gall amgylcheddau cyffredin gynnwys tafarndai, gwestai, bwytai, mannau adwerthu, ffatrïoedd, arlwyo i gontract, bwytai prydau cyflym , ysbytai, cartrefi preswyl a nyrsio, ysgolion, carchardai a'r lluoedd arfog.
Diogelwch Bwyd Lefel 3- sicrhau bod y goruchwylwyr yn ymwybodol o ddeddfau sy'n berthnasol i ddiogelwch bwyd a sut i gyfathrebu'r safonau angenrheidiol i weithwyr.
Mae'r cymhwyster hwn wedi ei anelu at
- Oruchwylwyr, arweinyddion tîm, a rheolwyr llinell sy'n gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu, yn cynnwys y rheiny sy'n gweithio ym maes dosbarthu a storio;
- Goruchwylwyr, arweinwyr tîm a rheolwyr syn gweithio yn y diwydiant arlwyo, yn cynnwys y rheiny sy'n gweithio yn y sector gofal;
- Goruchwylwyr, arweinyddion tîm, a rheolwyr llinell sy'n gweithio yn y diwydiant manwerthu a diwydiannau cysylltiedig.
- Rheiny sy'n berchen/rheoli busnes arlwyo bach.
Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn ennill y Dyfarniadau canlynol ( Dylai ymgeiswyr nodi pa ddyfarniad y dymunant ei gwblhau wrth wneud cais am y cwrs ) :
Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Goruchwylio Diogelwch Bwyd ym maes Gweithgynhyrchu Bwyd
Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Goruchwylio Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo
Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Goruchwylio Diogelwch Bwyd ym maes Manwerthu
Pynciau
- Sut y gall gweithredwyr busnesau bwyd sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda deddfau diogelwch bwyd,
- Gweithrediad a monitro arferion hylendid da,
- Sut i roi gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ar waith
- Rôl goruchwylwyr mewn perthynas â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd.
Mae cymorth cyllid ariannol SEE (Sgiliau i Gyflogwyr a Gweithwyr) ar gael i cyrsiau sydd yn darfod erbyn 31/05/23. Am rhagor o fanylion gan gynnwys gwybodaeth cymhwysedd, cysylltwch gyda ni.
*Nid yw hyn yn effeithio ar gytundebau ariannu sydd eisoes yn bodoli.
Dyddiadau Cwrs
Abergele
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
05/07/2023 | 09:00 | Dydd Mercher, Dydd Iau | 7.00 | 3 | £200 | 0 / 12 | D0003633 |
Busnes@ Dolgellau
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10/05/2023 | 09:00 | Dydd Mercher | 7.00 | 3 | £200 | 0 / 12 | D0003637 |
Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
08/03/2023 | 09:00 | Dydd Llun, Dydd Mercher | 7.00 | 3 | £200 | 11 / 12 | FTC00011 |
Busnes@LlandrilloMenai, Parc Menai
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
20/06/2023 | 09:00 | Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau | 7.00 | 3 | £200 | 2 / 12 | FTC00012 |
Gofynion mynediad
- Dealltwriaeth sylfaenol o ddiogelwch bwyd
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd neu gymhwyster cyfatebol (yn ddelfrydol)
Cyflwyniad
- Sesiynau addysgu
- Gwaith grŵp
Asesiad
Prawf amlddewis.
Dilyniant
Dyfarniad Lefel 4 mewn Rheoli Diogelwch Bwyd