Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 2 Highfield mewn Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo, Cynhyrchu neu Fanwerthu – Cwrs Diweddaru

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    4 awr / hanner diwrnod

Gwnewch gais
×

Dyfarniad Lefel 2 Highfield mewn Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo, Cynhyrchu neu Fanwerthu – Cwrs Diweddaru

Cyrsiau Byr

Coleg Llandrillo, Abergele
Dydd Mawrth, 21/05/2024

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn yn addas i ddysgwyr a all fod yn gweithio mewn amgylchedd arlwyo bwyd ac sydd eisoes wedi ennill cymhwyster Diogelwch Bwyd wedi'i reoleiddio. Fe'i cynlluniwyd i ddiweddaru eu gwybodaeth am brosesau Diogelwch Bwyd a phynciau megis storio, paratoi, coginio, gweini a thrin bwyd. Cyn dilyn y cwrs diweddaru hwn, mae'n ofynnol bod gan ddysgwyr gymhwyster diogelwch bwyd llawn. Rhaid rhoi prawf o'r cymhwyster hwn i'r ganolfan ymlaen llaw.

Dyddiadau Cwrs

Coleg Llandrillo, Abergele

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
21/05/202409:00 Dydd Mawrth3.501 £401 / 12D0005188

Gofynion mynediad

I gofrestru ar y cwrs hwn rhaid i ddysgwyr wrth gymhwyster Diogelwch Bwyd llawn. Argymhellir hefyd bod gan ddysgwyr Lefel 1 o leiaf mewn Saesneg a Mathemateg, neu gymhwyster cyfwerth.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfrwng sesiwn addysgu a gwaith grŵp.

Asesiad

Ar ddiwedd y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfrwng papur arholiad amlddewis.

Dilyniant

Ar ôl ennill y cymhwyster hwn, gallwch fynd ymlaen i ennill cymwysterau eraill sy'n ymwneud â diogelwch bwyd, e.e. Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Goruchwylio Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Lletygarwch ac Arlwyo

Dwyieithog:

n/a

Lletygarwch ac Arlwyo

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Lletygarwch ac Arlwyo

Cogydd yn coginio mewn cegin