Dyfarniad Lefel 2 Highfield mewn Ymwybyddiaeth o Alergenau a Rheoli Alergenau ym maes Arlwyo
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau, Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
4 awr / hanner diwrnod - Cwrs cost £40
Dyfarniad Lefel 2 Highfield mewn Ymwybyddiaeth o Alergenau a Rheoli Alergenau ym maes Arlwyo
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Cynlluniwyd y cwrs hwn i ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth am alergenau bwyd a bwydydd sy'n aml yn achosi anoddefiadau. Edrychir ar eu nodweddion a'u heffeithiau, ar bwysigrwydd cyfleu gwybodaeth yn effeithiol i gwsmeriaid ac ar sut y gall staff leihau'r risg o draws-halogiad.
Gofynion mynediad
Argymhellir bod gan ddysgwyr Lefel 1 o leiaf mewn Saesneg a Mathemateg, neu gymhwyster cyfwerth
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy gyfrwng sesiwn addysgu a gwaith grŵp.
Asesiad
Ar ddiwedd y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfrwng papur arholiad amlddewis 15 cwestiwn. I lwyddo, rhaid ateb o leiaf 9 o'r 15 cwestiwn yn gywir (60%).
Dilyniant
Ar ôl ennill y cymhwyster hwn, gallwch fynd ymlaen i ennill cymwysterau eraill sy'n ymwneud ag alergenau a diogelwch bwyd, e.e. Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Rheoli Alergenau ym maes Arlwyo a Dyfarniad Lefel 2 Highfield mewn Diogelwch Bwyd ym maes Arlwyo.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Lletygarwch ac Arlwyo
Dwyieithog:
n/aLletygarwch ac Arlwyo
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
