Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ynysu Trydan yn Ddiogel TB 118

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod.

Gwnewch gais
×

Ynysu Trydan yn Ddiogel TB 118

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hyfforddi yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i ynysu'n ddiogel
  • Pam fod trydan mor beryglus
  • Deddfwriaeth, Rheoliadau a Safonau
  • Gweithdrefnau ynysu'n ddiogel
  • Dyfeisiau sy'n addas at ddibenion ynysu

Canlyniadau peidio â defnyddio technegau ynysu diogel

Amcanion y cwrs hyfforddi hwn yw galluogi cyfranogwyr i fodloni gofynion Rheoliadau Trydan yn y Gweithle 1989 o ran ynysu offer trydanol yn ddiogel a chymhwysedd i atal perygl ac anafiadau. Cwrs un dydd yw hwn.

Ni fydd y dystysgrif yn arwain at unrhyw gymhwyster ond bydd yn profi dealltwriaeth o'r broses ynysu'n ddiogel.

Mae'n bwysig bod gan weithwyr a rheolwyr nad ydynt yn gweithio yn y maes trydanol ddealltwriaeth glir o ofynion cyfreithiol ynysu'n ddiogel yn ogystal â'r gwaith ymarferol. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn deall y broses yn llawn a'r risgiau sy'n gysylltiedig â methu â mabwysiadu'r prosesau hyn.

Gofynion mynediad

Cymhwyster crefft ffurfiol e.e. Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol neu Albanaidd (NVQ/SVQ) Lefel 2 neu 3 mewn peirianneg gwresogi neu blymio neu grefftau trydanol, neu'n cwblhau cwrs mewn peirianneg gwresogi neu blymio ar hyn o bryd a fydd yn arwain at gymhwyster ffurfiol fel NVQ Lefel 2 neu 3 gwresogi a systemau awyru neu blymio neu osodiadau trydanol, neu feddu ar nifer o flynyddoedd o brofiad o beirianneg gwresogi gonfensiynol neu blymio a gosodiadau trydanol.

Cyflwyniad

Gwaith Ymarferol a Gwaith Theori

Asesiad

Mae’r cwrs ynysu offer trydanol yn ddiogel wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd angen ymarfer Ynysu Diogel ac mae’n cwmpasu Rheoliad 3, 12, 13, 14 ac 16 o Reoliadau Trydan yn y Gweithle 1989.

Ceir asesiadau ymarferol a rhai theori.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:


Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'