CIPS Lefel 4 Diploma mewn Gweithrediadau Caffael a Chyflenwi
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Ar-lein
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 flwyddyn, 1 diwrnod yr wythnos am 35 wythnos
CIPS Lefel 4 Diploma mewn Gweithrediadau Caffael a ChyflenwiOedolion a Rhan-amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Yn sgil yr amgylchedd busnes heriol sydd ohoni heddiw mae prynu a chyflenwi wedi dod yn gynyddol bwysig ac mae'r proffesiwn yn chwarae rhan arwyddocaol yng nghynaliadwyedd sefydliad. O'r herwydd, mae swyddogion prynu a chyflenwi, yn enwedig rhai cymwys sydd wedi'u hyfforddi'n dda, yn ased angenrheidiol a gwerthfawr i unrhyw gwmni.
Mae'r cymwysterau CIPS yn gymwysterau proffesiynol, hyd at Lefel Gradd Anrhydedd, a gydnabyddir yn rhyngwladol. Maent yn hynod ymarferol ac yr un mor berthnasol i'r sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Dyddiadau Cwrs
Busnes@Remote
Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni am wybodaeth bellach.
| Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Cod |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 16/03/2026 | 09:00 | Dydd Llun | 7.00 | 35 | Am ddim | CIPSL4PSPLA1 |
| Mae’r cwrs hwn am ddim drwy’r Cyfrif Dysgu Personol . Cliciwch 'Cofrestru' ar frig y dudalen i ddechrau eich cais. Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol . | ||||||
Gofynion mynediad
Profiad o gaffael ar lefel 3/4 neu HND/Gradd Sylfaen.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Darlithoedd, gwaith grŵp, sesiynau ymarferol
Asesiad
Arholiadau ysgrifenedig
Dilyniant
CIPS Lefel 5, dilyniant gyrfaol o fewn caffael, cyfleoedd fel arolygwr/rheolwr
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Hyfforddiant rhan-amser
Lefel:
4
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Busnes a Rheoli