Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Gwyddoniaeth Fforensig ac Ymchwilio i Droseddau

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    2 flynedd. Blwyddyn 1 - Diploma Sylfaen / Blwyddyn 2 - Diploma Estynedig.

Gwnewch gais
×

Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Gwyddoniaeth Fforensig ac Ymchwilio i Droseddau

Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol

Coleg Llandrillo, Y Rhyl

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os oeddech chi'n mwynhau TGAU Gwyddoniaeth ac eisiau archwilio sut mae technegau gwyddonol yn cael eu defnyddio mewn gwaith fforensig ac wrth ymchwilio i droseddau, gallai Diploma Lefel 3 BTEC mewn Gwyddoniaeth Fforensig ac Ymchwilio i Droseddau fod y dewis delfrydol i chi. Mae'r cwrs hwn yn cyfuno dysgu yn yr ystafell ddosbarth ag arbrofion ymarferol. Bydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ar gyfer sefyllfaoedd, tasgau a heriau yn y gweithle.

Byddwch hefyd yn meithrin ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cefnogi eich dilyniant ar unrhyw lwybr gyrfa. Gan eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr a phrifysgolion, mae'r sgiliau hyn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer symud i addysg uwch neu'n uniongyrchol i gyflogaeth.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys dau gymhwyster ar wahân. Yn eich blwyddyn gyntaf o astudio, byddwch yn gweithio tuag at Ddiploma Sylfaen Lefel 3.

Ar ôl cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i'r Diploma Estynedig.

Mae ein Diplomâu Estynedig yn cynnig pwyntiau UCAS sy'n cyfateb i astudio 3 Lefel A.

Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys

  • Egwyddorion a Chymwysiadau Gwyddonol
  • Gweithdrefnau a Thechnegau Gwyddonol Ymarferol
  • Gweithdrefnau Ymarferol ar gyfer Ymchwiliadau Fforensig
  • Cymhwyso Troseddeg
  • Gweithdrefnau Ymarferol ar gyfer Ymchwilio i Droseddau
  • Cymhwyso Seicoleg Droseddol a Seicoleg Fforensig
  • Ffisioleg Systemau’r Corff

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg a Gwyddoniaeth
  • Gradd Teilyngdod mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformio ac arsylwi

Dilyniant

Yn ogystal â'r cynnwys penodol i'r sectorau gwyddoniaeth gymhwysol, gwyddoniaeth fforensig, troseddeg, a seicoleg droseddol a fforensig a amlinellwyd uchod, bydd gofynion y cymhwyster yn golygu bod dysgwyr yn datblygu'r sgiliau trosglwyddadwy uwch sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan addysg uwch a chan gyflogwyr.

Mae'r ystod o gyrsiau gradd addysg uwch y gall dysgwyr symud ymlaen iddynt yn cynnwys:

  • BSc (Anrh) Plismona Proffesiynol yn GLlM
  • BSc (Anrh) mewn Plismona ac Ymchwilio i Droseddau
  • BSc (Anrh) mewn Gwyddoniaeth Fforensig ac Ymchwilio i Droseddau
  • BSc (Anrh) mewn Gwyddoniaeth Fforensig
  • BSc (Anrh) mewn Seicoleg Fforensig
  • BSc (Anrh) mewn Seicoleg a Throseddeg
  • BSc (Anrh) mewn Seicoleg Fforensig ac Ymchwilio i Droseddau
  • BA (Anrh) mewn Troseddeg
  • BA (Anrh) mewn Troseddeg a'r Gyfraith

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol, Oedolion a Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Mynediad i Addysg Uwch
  • Gwyddoniaeth (Cymhwysol)

Mynediad i Addysg Uwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Mynediad i Addysg Uwch

Myfyrwyr yn gwrando mewn dosbarth

Gwyddoniaeth (Cymhwysol)

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Gwyddoniaeth (Cymhwysol)

Myfyriwr mewn labordy gwyddoniaeth