Dyfarniad Lefel 1 iBSL mewn Iaith Arwyddion Prydain
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos, HWB Dinbych, Lleoliad cymunedol
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
3 awr yr wythnos am 22 wythnos
Dyfarniad Lefel 1 iBSL mewn Iaith Arwyddion PrydainCyrsiau Rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Nod y cymhwyster hwn yw galluogi dysgwyr i feithrin sgiliau addas a digonol er mwyn gallu defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i drafod materion pob dydd â phobl fyddar.
- Cyfarfod pobl – deall cwestiynau syml, bod yn gwrtais, cyflwyno gwybodaeth
- Gwaith/Ysgol/Coleg – adnabod mathau o waith neu sefydliadau addysgol, swyddi neu gyrsiau a astudir (cyfnod a dreuliwyd yn gweithio neu flynyddoedd yn y coleg)
- Defnyddio rhifau (termau rhif cyffredinol gan gynnwys amser, oed ac arian)
- Tywydd – trafod y tywydd a newidiadau tymhorol
- Cyfarwyddiadau
- Syniadau a safbwyntiau – ffeithiau a syniadau/mynegi barn mewn disgrifiadau syml
- Strwythur arwyddo – gallu defnyddio strwythur arwyddo Iaith Arwyddion Prydain er mwyn ffurfio brawddegau
Gofynion mynediad
Disgwylir bod y myfyrwyr wedi cwblhau'r Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain neu fod ganddynt lefel gyfatebol o sgiliau yn Iaith Arwyddion Prydain.
Cyflwyniad
Cyflwynir y gwersi ar gampysau'r coleg neu mewn lleoliadau cymunedol dros gyfnod o un flwyddyn academaidd. Bydd asesiadau'r cyrsiau a gyflwynir o bell yn cael eu cynnal ar un o gampysau'r coleg.
Asesiad
*Cynhelir yr holl asesiadau mewn canolfannau coleg a gymeradwywyd
1A1 - Sgiliau Derbyn Gwybodaeth: Bydd y myfyrwyr yn ateb cwestiynau ar ôl gwrando ar stori fer a draddodir yn Iaith Arwyddion Prydain
1A2 - Sgiliau Disgrifiadol: Rhoddir pwnc i'r myfyrwyr bedair wythnos cyn dyddiad yr asesiad a gofynnir iddynt ddarparu gwybodaeth yn Iaith Arwyddion Prydain mewn asesiad fideo byr
1A3 - Sgiliau Sgwrsio: Dylai'r myfyrwyr allu deall ac ymateb i ddatganiadau neu gwestiynau mewn Iaith Arwyddion Prydain, gan gynnwys sillafu â bysedd. Bydd iBSL yn darparu pwnc i'w drafod ychydig cyn i'r asesiad ddechrau.
Dilyniant
Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn derbyn Tystysgrif iBSL, a gallant fynd ymlaen i ddilyn cwrs Iaith Arwyddion Prydain Lefel 2.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Astudiaethau Byddar ac Iaith Arwyddion
Dwyieithog:
n/a