Nwy LPG (ACS)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
 - Dull astudio:Rhan amser
 - Hyd:
Hyd at un wythnos - yn dibynnu ar ofynion ACS
 
Disgrifiad o'r Cwrs
Peirianwyr Gas Safe cofrestredig sydd angen adnewyddu eu cymwysterau ACS.
Meysydd Gwaith:
CoNGLP1 - Newid nwy naturiol domestig i LPG (ar gael trwy gyllid Cyfrif Dysgu Personol)
Anheddau Parhaol (PD)  (ar gael trwy gyllid Cyfrif Dysgu Personol)
Cartrefi Preswyl mewn Parciau (RPH) 
Cerbydau Llety Hamdden (LAV) 
Cyfarpar LPG Penodol:
HTRLP2 - Gosod, cyfnewid, gwasanaethu, atgyweirio, datgymalu a chomisiynu tanau nwy gyda ffliwiau caeedig - LPG (ar gael trwy gyllid Cyfrif Dysgu Personol)
Elfennau craidd:
- Rheoliadau diogelwch nwy, Rheoliadau Adeiladu, Safonau Prydeinig a deddfwriaethau perthnasol eraill
 - Sefyllfaoedd anniogel a'r camau i'w cymryd mewn argyfwng
 - Nodweddion lleoli silindrau LPG, diogelwch a meintiau
 - Gweithredu a lleoli ar gyfer ynysu mewn argyfwng, rheoli llif a falfiau silindrau
 - Pwysedd cyflenwadau
 - Pibellau nwy (yn cynnwys meintiau, gosod, diffygion a namau)
 - Profi tyndra a llwyrlanhau (PD, LAV a RPH)
 - Ffliwau ac awyru
 - Hylosgi
 
Cyfarpar:
- Rheoliadau diogelwch nwy, Rheoliadau Adeiladu, Safonau Prydeinig a deddfwriaethau perthnasol eraill
 - Gosod
 - Comisiynu a chanfod diffygion
 - Gweithdrefnau gwasanaethu
 - Sefyllfaoedd anniogel
 
Gofynion mynediad
Cymwysterau ACS blaenorol
Mae’r cwrs hwn yn addas i beirianwyr sydd â'r cymwysterau angenrheidiol i gael eu derbyn ar y Cynllun ACS. Y Bwrdd Rheoli Strategol ar gyfer y diwydiant sy'n rhedeg y cwrs a bydd ei gwblhau'n llwyddiannus yn galluogi peirianwyr i gofrestru gyda Gas Safe. 
Mae peirianwyr yn cael eu dosbarthu i dri chategori:
Categori 1 – Gweithiwr gosod nwy profiadol sy'n ymarfer gosod nwy Newydd-ddyfodiad gyda chymhwyster perthnasol
Categori 2 - Ymgeisydd gyda phrofiad/cymwysterau perthnasol ym maes gosod nwy/peirianneg fecanyddol
Categori 3 - Ymgeisydd newydd heb unrhyw gymwysterau/profiad perthnasol
Gwybodaeth Ychwanegol:
Ar ddiwrnod yr hyfforddiant bydd angen i chi ddod â:
- 1 llun maint pasbort
 - Copïau gwreiddiol o gymwysterau ACS sydd wedi dod i ben neu sydd ar fin dod i ben
 
Noder: Nid yw hyfforddiant yn orfodol ar gyfer asesiad
Cyflwyniad
Yn dibynnu ar ACS, mae angen hyd at un diwrnod o hyfforddiant
Asesiad
Asesiad ymarferol a gwaith theori hyd at un diwrnod
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A										
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
 - Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
 
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig