Graddau
Mae'r seremoni raddio flynyddol yn dathlu cyflawniadau unigol ein myfyrwyr Addysg Uwch. Bob blwyddyn mae cannoedd o raddedigion yn derbyn eu graddau mewn seremoni arbennig, a llawer o'r rhain yn cael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.
Bob blwyddyn, bydd ein myfyrwyr yn cael canlyniadau rhagorol ac yn dewis un ai parhau a'u hastudiaethau mewn prifysgol neu fynd ymlaen i fyd gwaith.
Enillodd 84% o'r dysgwyr raddau A* i C yn eu harholiadau Lefel A a chafodd dros draean y dysgwyr raddau A* ac A yn 2022. Mae rhai o'n cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio ym mhrifysgolion Caergrawnt a Rhydychen a phrifysgolion blaenllaw eraill sy'n perthyn i Grŵp Russell.
Ym myd diwydiant, mae ein prentisiaid yn parhau i ragori yn eu gwahanol feysydd, gan ennill llu o wobrau am eu gwaith caled. Ymhlith ein llwyddiannau diweddar mae gwobr 'Prentis y Flwyddyn' Redrow a 'Medal Ragoriaeth' yn rownd derfynol cystadleuaeth WorldSkills.
Mae'r seremoni raddio flynyddol yn dathlu cyflawniadau unigol ein myfyrwyr Addysg Uwch. Bob blwyddyn mae cannoedd o raddedigion yn derbyn eu graddau mewn seremoni arbennig, a llawer o'r rhain yn cael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.
Mae ein myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol sy'n rhoi cyfle iddynt brofi eu sgiliau yn erbyn myfyrwyr o bob cwr o'r byd. Mae llawer wedi cymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills gan deithio cyn belled â Rwsia a Brasil i gystadlu. Yn 2022, enillodd ein myfyrwyr 30 medal, gan gynnwys 13 medal aur.
Mae ein hacademïau rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd yn meithrin y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr proffesiynol. Mae athletwyr talentog o'r academïau wedi mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol.