Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfleoedd i Gyfoethogi Profiadau Myfyrwyr

Tra byddant yn astudio yn y coleg, gall myfyrwyr fanteisio ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau allgyrsiol fydd yn eu helpu i feithrin annibyniaeth a hyder ac yn ehangu eu profiadau.

Chwarae pel rwyd yn y neuadd chwaraeon

Ar y gwahanol gampysau gallwch gymryd rhan mewn sawl camp, yn cynnwys athletau, badminton, pêl-fasged, pêl-droed, hoci, pêl-rwyd, rygbi a sboncen, am hwyl neu'n gystadleuol, yn ogystal â nifer o weithgareddau awyr agored.

Dewch i wybod mwy...

Undeb y Myfyrwyr

Mae pob un o'r tri choleg yn ethol ei lywydd ei hun i Undeb y Myfyrwyr. Y llywyddion hyn sy'n cynrychioli llais y myfyrwyr, ac maent yn trefnu digwyddiadau amrywiol trwy gydol y flwyddyn. Yn 2018, 2019 a 2020 enillodd ein Hundeb Myfyrwyr wobr NUS Cymru i Undeb Myfyrwyr AB y Flwyddyn!

Rhagor o wybodaeth am undeb y myfyrwyr

Rhaglen Llysgenhadon Actif

Lluniwyd y Rhaglen Llysgenhadon Actif i feithrin arweinwyr y dyfodol drwy hyrwyddo pwysigrwydd iechyd a lles a chymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.

Bod yn un o'n Llysgenhadon Actif

Clwb Menter

Drwy gydol y flwyddyn mae'r clwb yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai anffurfiol, sesiynau gyda chyflogwyr, cystadlaethau, 'boot camps' i fusnesau newydd a chyfleoedd unigryw i gefnogi mentergarwch a gwella'ch cyflogadwyedd.

Myfyrwyr yn y Llyfrgell

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Nod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw darparu rhagor o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol.

Gwella eich sgiliau iaith