Cludiant Coleg Menai
Cyrraedd y Coleg: Canllawiau ar Gludiant i Ddysgwyr Coleg Menai
Pwy sy'n gymwys i gael pàs bws am ddim?
I fod yn gymwys rhaid i chi:
- fod yn ddysgwr yng Ngholeg Menai, a bod yn byw yng Ngwynedd neu Ynys Môn
- bod yn byw dros 3 milltir o'r campws rydych chi'n ei fynychu.
Sut mae dysgwyr yng Ngwynedd yn cael eu pàs?
- Lawrlwytho ap Tocyn Teithio 16+ Gwynedd
- Dilyn y cyfarwyddiadau i gofrestru gyda Chyngor Gwynedd
- Llenwi'r ffurflen gais fer
Canllawiau cam wrth gam i wneud cais:
Bysus Gwynedd - Sut i archebu 'E-Ticket'
- Lawrlwytho ap Galw Gwynedd ar y ffon!
- Logio mewn i wefan Galw Gwynedd;
- Clicio ar Parcio, ffyrdd a theithio
- Clicio ar Tocynnau Teithio
- Clicio ar Tocyn Teithio 16+
- Clicio ar Archebu Tocyn Teithio 16+ ar-lein
- Creu cyfrif Newydd / Cofrestru NEU Logio mewn i gyfrif Galw Gwynedd
- Mynd ar ap Cyngor Gwynedd a lawrlwytho 'E-Ticket'
Manylion Galw Gwynedd - 01766 771000
Angen help?
Cysylltwch â Gavin Hughes – hughes12g@gllm.ac.uk neu 01248 370 125 est. 3456
Sut mae dysgwyr yn Ynys Môn yn cael eu pàs?
- Llenwch y ffurflen hon, ac yna casglwch eich tocyn gan y Gwasanaethau i Ddysgwyr.
- Galwch heibio i'r Gwasanaethau i Ddysgwyr a gall y tîm eich helpu i wneud cais am bàs bws.
Angen help?
Cysylltwch â Gwawr Morgan – morgan2g@gllm.ac.uk neu 01248 370 125 est. 2234
Amserlenni Bysiau
Coleg Menai Bangor
- Teithiau Bws Gwynedd: Amserlenni Tocynnau Teithio 16+ Cyngor Gwynedd (Gwefan Cyngor Gwynedd)
- Ynys Môn (Amserlenni Ynys Môn)
Coleg Menai Llangefni
Gwasanaethau Tacsi'r Awdurdodau Lleol:
Gwneir ceisiadau am gludiant dyddiol mewn tacsi i'r coleg trwy eich awdurdod lleol, yn unol â'u polisi trafnidiaeth. Nid yw'r coleg yn darparu tacsis dyddiol ond gall gefnogi dysgwyr sy'n dymuno gwneud cais trwy helpu gyda phroses ymgeisio'r awdurdod lleol. Yn y rhan fwyaf o achosion, os cawsoch gludiant dyddiol mewn tacsi tra oeddech yn yr ysgol, bydd eich awdurdod lleol wedi cysylltu â chi erbyn diwedd y flwyddyn academaidd gyfredol i gadarnhau eich trefniadau cludiant. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Gwasanaethau i Ddysgwyr neu anfonwch e-bost i cludiant@gllm.ac.uk.
Beicio:
Ar bob campws ceir man penodol i barcio beiciau - peidiwch ag anghofio cloi!
Car:
Cewch barcio am ddim ar bob un o'r campysau.
Trên:
Mewn rhai achosion, gall yr awdurdod lleol ganiatáu i chi deithio ar drên. Bydd yr awdurdod lleol yn cadarnhau hyn gyda chi ar ôl i chi wneud cais am eich pàs teithio. Gall dysgwyr sy'n teithio'n rheolaidd ar y trên arbed arian gyda cherdyn rheilffordd 16‑25 neu gerdyn rheilffordd arall – ewch i https://www.railcard.co.uk/
Bws Arriva:
Gall pob myfyriwr brynu tocyn bws Arriva am bris gostyngol. Mae modd prynu'r rhain ar y bws drwy ddangos tocyn bws dilys neu gerdyn ID myfyriwr, neu gellir eu prynu bob tymor neu bob blwyddyn oddi ar wefan Arriva: www.arrivabus.co.uk/students
Mae rhagor o ostyngiadau ar gael ar y ddolen ganlynol: fyngherdynteithio.llyw.cymru/cy/. Mae'n cynnig traean yn rhagor oddi ar gost teithio ar fws cyhoeddus i fyfyrwyr o dan 21 oed.
Angen Help?
Galwch heibio i'r Gwasanaethau i Ddysgwyr ar eich campws neu anfonwch neges e-bost i cludiant@gllm.ac.uk. Rydym ni yma i helpu.