Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Bwytai

Yn ein ceginau a'n bwytai hyfforddi rhagorol, ceir cyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n galluogi myfyrwyr ar bob lefel i loywi eu sgiliau technegol a phersonol. Wedyn, gallant symud ymlaen i weithio yn unrhyw un o feysydd y diwydiant Lletygarwch. Mae gennym bedwar bwyty hyfforddi a chroesawn archebion gan gleienti.

Rydym yn falch o'n hadrannau Lletygarwch ac Arlwyo sydd wedi ennill sawl gwobr. Ein nod yw hyfforddi a mentora myfyrwyr ym mhob agwedd ar arlwyo a lletygarwch er mwyn iddynt gael profiadau a chymwysterau o'r radd flaenaf.

"Salad bar" yn y Bistro

Y Bistro: Llandrillo-yn-Rhos

01492 546 666 ext. 1278

Mae'r bwyty hyfforddi hwn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener ar gyfer coffi boreol a chinio. Caiff popeth ei goginio a'i weini gan fyfyrwyr sy'n cael eu goruchwylio gan staff profiadol ac ymroddgar, ac mae'r nifer o ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod y flwyddyn ar themâu penodol yn brawf o'u dychymyg a'u sgiliau coginio.

Oriau agor

  • Coffi : 09:45-10:45, Llun i Gwener
  • Cinio: 12:00-13:15, Llun i Gwener
Campws Friars, Coleg Menai

Friars: Bangor

Mae Bwyty Hyfforddi Friars yn cynnig gwerth rhyfeddol am arian. Caiff y bwyd ei baratoi a'i goginio i safon uchel yn y fan a'r lle gan ein myfyrwyr, o dan gyfarwyddyd tiwtoriaid profiadol. Mae'r Bwyty, sy'n lle gwych am noson allan, wedi'i leoli yn adeilad hanesyddol Friars.

Dewch i wybod mwy...
Offer cegin

Y Gader: Dolgellau

01341 422 827

Ym Mwyty'r Gader, cewch fwyd a gwasanaeth gwych mewn awyrgylch cartrefol braf. Ein myfyrwyr lletygarwch, dan oruchwyliaeth ein staff profiadol, sy'n gweithio yn y bwyty ac yno cewch fwynhau amrywiaeth o fwydydd lleol, sy'n cynnwys cynnyrch o'n hystâd ein hunain ar gampws Glynllifon ger Caernarfon.

Oriau agor

  • Cinio Bwffe: 12:30-14:30, Mercher.
  • Cinio 3 chwrs: 12:30-14:30, Iau a Gwener.
  • Coffi a Chacennau: 10:00-14:30, Mercher i Gwener.
Dysgwr yn coginio yng nghegin Bwyty Orme View

Orme View: Llandrillo-yn-Rhos

01492 542 341

Mae gan Fwyty Orme View enw da am ragoriaeth yn rhyngwladol, ac mae'r staff a'r myfyrwyr wedi ennill amryw o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol. Yno, caiff cwsmeriaid brydau gourmet am bris sy'n dipyn rhatach na'r prisiau a godir yn y bwytai gorau.

Oriau agor

  • Cinio: 12.00, Dydd Mawrth, Mercher a Iau.
  • Swper: 19.00, Dydd Iau.

Logi lle ar lein

Dietau arbennig

Lle bo modd, byddwn yn ymdrechu i ddarparu ar gyfer gwahoddedigion gyda gofynion diet arbennig. I'n cynorthwyo gofynnwn i gwsmeriaid nodi unrhyw ofynion wrth archebu. Cynhwysir seigiau llysieuol ar bob bwydlen. Gall unrhyw rai o'n eitemau bwyd gynnwys tameidiau o gnau. Gofynnwch i'r arolygwr bwyty am unrhyw wybodaeth ynglýn ag eitemau bwyd neu ddiod.

Noder:

Mae ein bwytai'n agored yn ystod y tymor yn unig.