Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfleusterau Cynadledda yng Ngogledd Cymru

Os ydych yn bwriadu cynnal digwyddiad neu'n chwilio am leoliad unigryw ar gyfer cyfarfod busnes yng Ngogledd Cymru, fe all un o'n hystafelloedd cynadledda ateb eich gofynion i'r dim. Mae gennym gyfleusterau cynadledda ar gael i'w llogi'n allanol yn ystod y tymor ar ddau gampws: Llanelwy a Chanolfan Gynadledda Orme View,

Swyddfa newydd Busnes@LlandrilloMenai ym Marc Busnes Llanelwy

Parc Busnes Llanelwy

01492 546 666 ext. 1609 / busnes@gllm.ac.uk

Mae canolfan Busnes@LlandrilloMenai ym Mharc Busnes Llanelwy yn lleoliad cyfleus 2 funud yn unig oddi ar yr A55 sy'n darparu dewisiadau hyfforddi hyblyg i gyd-fynd â'ch amcanion sefydliadol, gan eich helpu chi a'ch staff i ddysgu, i dyfu ac i lwyddo.

Mae gennym gyfleusterau newydd modern ar gael i'w llogi sy'n galluogi cyflogwyr i gynnal cyfarfodydd, digwyddiadau, hyfforddiant, gweithdai a chyfleoedd datblygu staff mewn amgylchedd croesawgar a phroffesiynol. ⁠Mae maes parcio i 46 o geir ar y safle sy’n cynnwys pedwar man i wefru cerbydau trydan.

Ystafelloedd Dosbarth Cyffredinol
Un ystafell fawr y gellir ei rhannu'n ddwy ystafell lai. Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau, cyfarfodydd a sesiynau hyfforddi, ac mae dwy sgrin ddigidol fawr ar y wal. £23 yr awr + TAW

Capasiti:

  • 60 - ffurf theatr
  • 36 - ffurf ystafell bwrdd
  • 36 - ffurf cabaret

Ystafelloedd cyfarfod
Ystafelloedd bwrdd pwrpasol, sy'n ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd a sesiynau grŵp llai. Mae gan bob un gyfrifiadur a theledu mawr ar y wal sy'n galluogi cyfranogwyr i ymuno o bell.

Capasiti:

  • 10 - 2 ystafell
  • 3 - ystafell gyfarfod fach (bwrdd a chadeiriau'n unig)

Ystafelloedd TG
Ystafelloedd TG modern lle mae'r cyfrifiaduron ar yr ochrau a'r byrddau yn y canol.

⁠Capasiti:

  • 17 - 1 ystafell
  • 15 - 2 ystafell

Mae lifft yn yr adeilad i roi mynediad i'r ystafelloedd cyfarfod ar y llawr cyntaf. Ceir hefyd amrywiaeth o beiriannau gwerthu a thoiledau cwbl hygyrch ar y llawr gwaelod.

Gellir darparu te, coffi a dŵr ar y safle, tra gellir archebu bwyd ymlaen llaw gan ddarparwyr amrywiol.

Campws Llandrillo-yn-Rhos

Orme View: Campws Llandrillo-yn-Rhos

01492 546 666 ext. 1248

Ystafell Rhos
Mae lle i 30 o westeion os trefnir yr ystafell ar ffurf theatr neu 20 os caiff ei gosod ar gyfer cyfarfod bwrdd. Opsiwn arall yw uno Ystafell Rhos ag Ystafell Conwy er mwyn cael lle i hyd at 70 ar ffurf theatr, 40 ar ffurf cabaret neu 30 mewn cyfarfod bwrdd.

Madog Suite

Yma mae lle i 60- 70 o westeion ar ffurf theatr, 40 ar ffurf cabaret neu 40 ar ffurf sgwâr neu gyfarfod bwrdd.

Mae hefyd yn bosib llogi Bwyty'r Orme View ar gyfer cinio. Gall ddal hyd at 70 o bobl ac ar y cyd ag ystafelloedd Rhos, Conwy a Madog gall gael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd llawn a sesiynau grŵp. I ginio, gallwch ddewis bwffe ysgafn neu bryd bwyd ffurfiol, gallwch gael tamaid wrth weithio neu gael hoe fach yn un o'n bwytai. Gallwn gadw llefydd parcio ar eich cyfer.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date