Sylw ar Chwaraeon
Mae cyrsiau gwych Adrannau Chwaraeon ein colegau yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau fydd yn eich paratoi i ddilyn gyrfa gyffrous yn y diwydiant chwaraeon!
Mae'r cymwysterau chwaraeon sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai yn cyflwyno gwybodaeth a sgiliau perthnasol i fyfyrwyr sydd yn eu galluogi i fynd ymlaen i'r lefel nesaf - un ai i Addysg Uwch, i waith llawn amser neu i Brentisiaeth.
Ar bob cwrs, cyfunir gwaith theori a sesiynau ymarferol ag ymweliadau allanol a chyflwyniadau gan siaradwyr
gwadd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, er mwyn meithrin eich gwybodaeth a’ch sgiliau. Pa raglan bynnag y byddwch yn ei dilyn, cewch gyfle i ennill cymwysterau ychwanegol buddiol, gan gynnwys cymhwyster cymorth cyntaf, dyfarniadau awyr agored a chymwysterau hyfforddi mewn pob math o gampau.
Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser yn y meysydd a ganlyn:
- Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
- Addysg Awyr Agored
- Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth)
- Chwaraeon (Hyfforddi, Datblygu a Ffitrwydd)
Eich cyfleoedd gorau o ran gyrfa:
- Hyfforddwr Personol
- Ffisiotherapydd
- Hyfforddwr Chwaraeon
- Rheolwr Canolfan Chwaraeon
I ddarganfod mwy, porwch ein cyrsiau isod...