Sylw ar Peirianneg
Yn sgil datblygiadau lleol sylweddol, mae angen llawer rhagor o beirianwyr ar fyrder yng Ngogledd Orllewin Cymru i ymgymryd ag ystod eang o swyddi cyffrous sy’n talu’n dda.
Mae ein colegau’n cydweithio â chwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i alluogi pobl ifanc i ennill y cymwysterau a’r sgiliau o safon uchel y mae arnynt eu hangen.
Caiff ein holl gyrsiau eu darparu mewn ystafelloedd dosbarth modern a gweithdai o safon ddiwydiannol. Rydym yn cydweithio â chwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i alluogi pobl ifanc i ennill y sgiliau o ansawdd uchel y mae ar gyflogwyr eu hangen.
Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser yn y meysydd a ganlyn:
- Peirianneg
- Peirianneg Awyrennaeth
- Ffabrigo a Weldio
- Peirianneg Fecanyddol
- Peirianneg Ynni
Oeddech chi’n gwybod?
Cyflog Cyfartalog: £37,600
Eich cyfleoedd gorau o ran gyrfa:
- Ailorffennwr Awyrennau
- Crefftau Peirianneg
- Crefftau Weldio
- Ymchwilio a Datblygu
- Peiriannydd Cwch Hwylio Siartr

Corey a Rhys yn cael cyfle i ddisgleirio
Mae'r ddau fyfyriwr o Goleg Llandrillo yn meithrin arbenigedd mewn peirianneg fanwl gyda chwmni Continental Diamond Tool

Treial cyffrous o feddalwedd gweithgynhyrchu Deallusrwydd Artiffisial (AI) yng Ngholeg Menai
Profodd myfyrwyr peirianneg AI plug-in CAM Assist ar gampws Llangefni a rhoi adborth i ddatblygwyr ar sut y gellid ei ddefnyddio mewn addysg

Myfyrwyr peirianneg Pwllheli yn cyrraedd rownd derfynol F1 mewn Ysgolion y Deyrnas Unedig
Mae myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor wedi cyrraedd rownd derfynol y DU yng nghystadleuaeth F1 mewn Ysgolion.
Canolfan Beirianneg - Coleg Llandrillo
Mae Canolfan Beirianneg y Rhyl yn gyfleuster tri llawr o’r radd flaenaf sy’n ymestyn dros 3000m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o’r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf. O roboteg a pheiriannau prototeipio cyflym i beiriannau torri metel diwydiannol mawr a reolir gan gyfrifiaduron, mae’r ganolfan wedi’i chynllunio i ddarparu profiadau dysgu na ellir eu curo.

I ddarganfod mwy, porwch ein cyrsiau isod...