Swyddi
Swyddi gwag yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Darlithydd Sgiliau Hanfodol, Cyfnod penodol hyd at 31 Rhagfyr 2025
Cyflog
£21.83 - £33.74 yr awr gan gynnwys tâl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiadLleoliad Gwaith
- Bangor
- Llangefni
- Gweithio gartref
- Llanelwy
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
06 Hydref 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Cynorthwyydd Cefnogi Dysgu, (Anghenion Dysgu Ychwanegol) Tymor yn Unig, Glynllifon
Cyflog
£15.03 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliauLleoliad Gwaith
- Glynllifon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
06 Hydref 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Mentor Lles, Tymor yn Unig
Cyflog
£21,428.61 - £21,898.52 y flwyddyn yn ddibynnol ar gymysterau a phrofiadLleoliad Gwaith
- Llangefni
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
06 Hydref 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Aseswr Dysgu yn y Gweithle – Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Cyflog
£11,647 - £12,639 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiadLleoliad Gwaith
- Bangor
- Dolgellau
- Gweithio gartref
- Llanelwy
Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol
Dyddiad cau
07 Hydref 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Cynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu (Anghenion Dysgu Ychwanegol), Tymor yn unig
Cyflog
£9,198.44 y flwyddynLleoliad Gwaith
- Llandrillo-yn-Rhos
Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol
Dyddiad cau
09 Hydref 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Cynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu (Anghenion Dysgu Ychwanegol), Tymor yn Unig
Cyflog
£9,964.98 per annumLleoliad Gwaith
- Y Rhyl
Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol
Dyddiad cau
09 Hydref 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Hwylusydd Sgiliau Astudio, Tymor yn Unig
Cyflog
£11,763.00 - £12,802.30 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiadLleoliad Gwaith
- Llandrillo-yn-Rhos
Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol
Dyddiad cau
10 Hydref 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol - Plastro, dros dro am y flwyddyn academiadd 2025/26
Cyflog
£19.86 - £21.19 yr awr yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiadLleoliad Gwaith
- Llangefni
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
13 Hydref 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Pagination
- Tudalen 1 o 2
- Nesaf
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.
Achrediadau Cyflogaeth
Datganiad Gwrth-hiliaeth
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.
Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.
Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)
- Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
- Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
- Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
- Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
- Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
- Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.
Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.
I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk